Texas Radio Band
band ddwyieithog o Gymru
Band ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yw Texas Radio Band. Ei aelodau yw Matthew Williams sy'n canu a chwarae'r gitar, Rhodri Davies ar yr allweddellau (Mini a Tony); Rhydian Squids Jones, gitar fâs; Brychan England, 'offerynnau taro'; Alex Dingley (Dingley), gitar; a Gruff Ifan ar y drymiau. Crewyd y band tua ddiwedd y 90au gan Matthew a Rhodri ym mhentref Llansteffan, ger Caerfyrddin. Yn fuan wedyn ymunodd Squids a Rhodri H a arferai chwarae'r trwmped. Daw'r enw Texas Radio Band o drac ar albym The Doors, sef Texas Radio & The Big Beat. Arferai John Peel fod yn ffan o'u halbym, ac ymddangosodd y trac Chwaraeon rif 12 ar ei restr Festive 50 yn 2004.
Disgograffi
golygu- Eu hymddangosiad cyntaf oedd y trac Rowlin Mowlin ar y CD gasgliad Heb Newid.
- Y Tywysoges, EP, 1999, (Rasp Records)
- Love Is Informal, Sengl, 2002 (Boobytrap Records)
- Baccta' Crackin', Albym, Ebrill 2004, (Slacyr)
- Push And Shove, 7” Sengl, Rhagfir 2008 (Slacyr + Bee And Smoke)
- Gavin, Albym, Tachwedd 2008 (Peski)
- Bluescreen, Albym, Hydref 2011 (I Ka Ching Records)
Dolenni allanol
golygu