Ar Redadeg

(Ailgyfeiriad o Redadeg)

Ras a redir drwy Lydaw yw'r Redadeg. Cynhaliwyd yr un gyntaf ym mis Mai 2008 am gyfnod o dridiau er mwyn hybu achos y Llydaweg, yn seiliedig ar Korrika yng Ngwlad y Basg. Rhedwyd hi o dde Llydaw i'r gogledd, o Naoned i Brest, ac wedyn i Karaez. Trefnwyd y Redadeg gyntaf hon gan rwydwaith ysgolion cyfrwng Llydaweg, sef Diwan, i ddathlu 30 mlwyddiant sefydlu'r mudiad. Aeth elw'r ras gyntaf hon i gyd i Diwan. Ar wahân i arwyddion Llydaweg, Diwan yw'r unig elfen o gydnabyddiaeth o statws swyddogol i'r Llydaweg gan Lywodraeth Ffrainc.[1]

Ar Redadeg
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad sy'n ailadrodd Edit this on Wikidata
IaithLlydaweg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2008 Edit this on Wikidata
LleoliadLlydaw Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
RhanbarthBretagne Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ar-redadeg.bzh Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r elw bellach yn cael ei rannu ymysg sefydliadau a chymdeithasau eraill sy'n ymwneud â'r Llydaweg.

Seiliwyd y Redadeg ar ras y Fasgeg, 'Korrika'. Erbyn hyn ceir ras dros y Wyddeleg hefyd, sef 'an Rith', a Ras yr Iaith ar gyfer y Gymraeg. Cynhelir y Redadeg bob dwy flynedd ym mis Mai (2008, 2010, 2012, 2014, 2016 a 2018). Fel yn achos y Korrika, rhedir yn ddi-stop am 24 awr y dydd. Dydy rasys cyfatebol Cymru ac Iwerddon ddim yn rhedeg drwy'r nos.

Bu llwyddiant y Redadeg yn ysbrydoliaeth i sefydlu Ras yr Iaith ar gyfer y Gymraeg, a galwyd y cwmni nid-er-elw sy'n trefnu'r Ras yng Nghymru yn 'Rhedadeg' fel cydnabyddiaeth o hyn.

Caneuon y Redadeg golygu

Caiff pob Redadeg ei hadnabod gan arwyddgan wedi'i chyfansoddi'n arbennig ar gyfer y ras.

Rasys Iaith Eraill golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Henriette Walter, L'Aventure de Langues en Occident, list of the official languages of Europe and their official status, pp 31-34.

Dolenni allanol golygu