Awdures a bardd o'r Swistir oedd Regina Ullmann (14 Rhagfyr 1884 - 6 Ionawr 1961).

Regina Ullmann
Ganwyd14 Rhagfyr 1884, 1884 Edit this on Wikidata
St. Gallen Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ionawr 1961, 1961 Edit this on Wikidata
Ebersberg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Y Swistir Y Swistir
Galwedigaethbardd, llenor Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganed yn St. Gallen, Swistir a bu farw yn Ebersberg, Bafaria, yr Almaen. [1][2][3][4][5]

Magwraeth

golygu

Masnachwr brodwaith oedd ei thad Richard Ullmann a oedd yn Awstriad-Iddewig a Hedwig oedd ei mam. Regina oedd eu hail ferch. Cafodd ei geni yn nhref St. Gallen yn y Swistir, ond ym 1902, yn dilyn marwolaeth ei thad pum mlynedd ynghynt, symudodd hi a'i mam i Munich, lle bu'n darllen gwaith beirdd dylanwadol: Ina Seidel, Hans Carossa, Ludwig Derleth a Rainer Maria Rilke. Dechreuodd ohebu â Rilke, a ddaeth yn brif gefnogwr a mentor iddi; cyfarfu'r ddau am y tro cyntaf yn 1912.[6]

Yn Ionawr 1906, rhoddodd Ullmann enedigaeth i ferch anghyfreithlon, Gerta, yn Fienna. Y tad oedd yr economegydd Hanns Dorn. Dilynodd ail blentyn, Camilla, ym 1908 yn dilyn perthynas â seicdreiddiwr Otto Gross. Gadawodd Ullmann y ddau blentyn i dyfu i fyny gyda rhieni maeth, er iddi ymweld â nhw'n rheolaidd a goruchwylio eu haddysg.[7]

Awdures

golygu

Trodd Ullmann yn Gatholig yn 1911, ac ar ôl hynny nodweddir ei gwaith gan y dirgelwch crefyddol sy'n rhan annatod o fywyd bob dydd.

Yn ddibriod a heb waith, roedd Ullmann yn dioddef o iselder ysbryd, difrifol, a waethygwyd gan hunanladdiad ei mam, trwy hongian. Fodd bynnag, gyda'i chasgliad cyntaf o straeon byrion - Die Landstraße - daeth yn fwy adnabyddus. Gyda chymorth Rilke, cafodd gymorth ariannol i ysgrifennu, yn gyntaf gan ei chyhoeddwr ac yn ddiweddarach gan noddwyr yn y Swistir ac asiantaethau cymorth Catholig.

Cafodd ei diarddel, gan y Natsïaid, o Gymdeithas Awduron yr Almaen ym 1935 oherwydd ei hachau Iddewig, a'r flwyddyn ganlynol gadawodd yr Almaen, gan symud i Awstria lle bu farw ei mam yn 1938. Yn dilyn yr Anschluss, dychwelodd i fro ei mebyd, St. Gallen, yn y Swistir, lle bu'n aros ac yn gweithio am ryw ugain mlynedd, tan ychydig cyn ei marwolaeth. Yn ystod misoedd olaf ei bywyd, dychwelodd i'r Almaen ac arhosodd mewn cartref nyrsio dan ofal ei merch Camilla. Bu farw ar Nos Ystwyll 1961 yn Ebersberg.

Llyfryddiaeth

golygu
Cerddi
  • Von der Erde des Lebens, 1910
  • Die Landstrasse, 1921 (Ffordd drwy'r Wlad, cyfieithiad Saesneg ar gael ISBN 9780811220057)
  • Die Barockkirche, 1925
  • Vom Brot der Stillen, 2 Bände, 1932
  • Der Apfel in der Kirche, 1934
  • Der Engelskranz, 1942
  • Madonna auf Glas, 1944
Arall
  • Erinnerungen an Rilke, 1947

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, ac Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

golygu


Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Mehefin 2024.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Regina Ullmann". Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 7 Mawrth 2023.
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Regina Ullmann". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Regina Ullmann". Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 7 Mawrth 2023.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
  6. Katharina M Wilson, An Encyclopedia of Continental Women Writers, vol. 2, 1991
  7. David Holbrook, Where DH Lawrence was Wrong about Women, 1992, ISBN 0838752071, t. 26