Rhaeadr Victoria
Rhaeadr ar Afon Zambezi yn rhan ddeheuol Affrica yw Rhaeadr Victoria. Mae'n un o reaeadrau mwyaf y byd; er nad Rheadr Victoria yw'r uchaf na'r lletaf yn y byd, yma y ceir yr arwynebedd mwyaf o ddŵr yn disgyn. Mae'n 1708 medr o led a 108 medr o uchder.[1]
Math | rhaeadr, horseshoe waterfall |
---|---|
Enwyd ar ôl | Fictoria, brenhines y Deyrnas Unedig |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Mosi-oa-Tunya National Park |
Rhan o'r canlynol | Afon Zambezi |
Lleoliad | Livingstone, Victoria Falls |
Sir | Southern Province, Matabeleland North Province |
Gwlad | Sambia Simbabwe |
Arwynebedd | 6,860 ha |
Uwch y môr | 892 metr |
Gerllaw | Afon Zambezi |
Cyfesurynnau | 17.92478°S 25.85806°E |
Arllwysiad | 1,088 metr ciwbic yr eiliad |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, IUGS Geological Heritage Site |
Manylion | |
Saif ar y ffin rhwng Sambia a Simbabwe. Yr enw lleol arno yw Mosi-oa-Tunya ("y mwg sy'n taranu"). Rhoddwyd yr enw "Rhaeadr Victoria" arno gan David Livingstone, yr Ewropead cyntaf i'w weld.[1] Dynodwyd y rhaeadr a'i amgylchedd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Victoria Falls". World Digital Library. Cyrchwyd 1 Mehefin 2013.