Rheilffordd Bae Hudson (1910)
Roedd y Rheilffordd Bae Hudson wreiddiol yn brosiect gan lywodraeth Canada ym 1910 o Winnipeg yn y de i Churchill, Manitoba yn y gogledd, ar lannau Bae Hudson. Roeddent yn awyddus i sefydlu porthladd ym Mae Hudson ac roedd eu dewis rhwng Churchill a Port Nelson. Dewiswyd Port Nelson ym 1912, ond cafwyd problemau wrth adeiladu'r harbwr. Rhoddwyd y gorau i'r prosiect ym 1918.
Atgyfodwyd y prosiect gan Reilffordd Genedlaethol Canada yn y 1920au. Roedd y tirlun yn heriol, ac roedd problemau ariannol difrifol. Agorwyd lein i Flin Flon ym 1928, a chwblhawyd y brif lein i Churchill ym 1929. Cwblhawyd lein o Cranberry Portage (ar y lein i Flin Flon) i Lynn Lake ym 1953.
Ffurfiwyd Rheilffordd Bae Hudson ym 1997, sydd wedi prynu ac yn gweithredu'r leiniau o The Pas i Churchill, Flin Flon a Lynn Lake. Mae VIA Rail yn cynnig gwasanaeth i deithwyr o Winnipeg i Churchill. Mae trenau nwyddau yn cario efydd, sinc, coed, ŷd ac olew[1].
Cyfeiriadau
golyguDolen Allanol
golygu- Gwefan Omnitrax Archifwyd 2013-07-30 yn y Peiriant Wayback