Pasiwyd deddf ym 1878 i ganiatáu adeiladu'r rheilffordd gan gwmni Rheilffordd Llundain, Brighton ac Arfordir De. Rhowyd dyletswydd ar y rheilffordd gan y deddf i gael 4 trên pob dydd yn y ddau gyfeiriad. Agorwyd y lein ym 1882.
Caewyd y lein, erbyn hyn efo'r llysenw 'Bluebell line' ar 28 Mai 1955, ond sylwodd Madge Bessemer, un o'r trigolion North Chailey, ac wyres i Henry Bessemer[1], ar ddyletswydd y cwmni i redeg 4 trên pob dydd yn y ddau gyfeiriad, a gorfodwyd Rheilffyrdd Prydeinig i ailagor y lein ar 7 Awst 1956. Ar ôl ymholiad cyhoeddus, diddymwyd y cymal perthnasol o'r deddf gwreiddiol, a chaewyd y lein eto ar 17 Mawrth 1958.[2]
Roedd y bwriad gwreiddiol, ym 1959, i ailagor y cangen i gyd, o East Grinstead i Lewes ac yn gweithredu'n fasnachol efo cerbydau diesel. Doedd hi ddim posibl prynu'r lein i gyd, a doedd dim fawr o ddiddordeb yn lleol, felly penderfynwyd ailagor yn rheilffordd dreftadol stêm rhwng Sheffield Park a Horsted Keynes. Prynwyd locomotif 'Terrier' a dau gerbyd oddi wrth Rheilffyrdd Prydeinig am £750, a chyrhaeddon nhw ar 17 Mai 1960.[3] Ar 29 Hydref 1961, caniatawyd y rheilffordd i ddefnyddio Gorsaf reilffordd Horsted Keynes, er defnyddiwyd yr orsaf gan Reilffyrdd Prydeinig adeg hynny[4]. Ym 1964, prynwyd y lein oddi wrth Rheilffyrdd Prydeinig.[5]. Ailagorwyd y lein hyd at East Grinstead ar 23 Mawrth 2013.[6]