Rheilffordd Puffing Billy
Rheilffordd treftadaeth yn Victoria, Awstralia, yw Rheilffordd Puffing Billy. Lled y trac yw 2 droedfedd 6 modfedd. Mae’r rheilffordd yn mynd o Belgrave (ger Gorsaf reilffordd Belgrave ar Metro Melbourne) hyd at Gemsbrook, 18 milltir i ffwrdd ym Mryniau Dandenong.
Hanes
golyguRheilffordd Puffing Billy | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Agorwyd y rheilffordd, gyda’r enw Rheilffordd Gembrook, ar 18 Rhagfyr 1900, un o bedair rheilffordd cledrau cul yn y dalaith. O’r 30au ymlaen, roedd rhedeg y rheilffordd yn gostus i Reilffyrdd Victoria. Mae rhannau’r rheilffordd yn syrth, ac oedd cyfnewid nwyddau yn Upper Ferntree Gully – oherwydd lled gwahanol y traciau ymlaen i Felbourne - yn ddrud; a wedyn daeth bysiau a loriau i gystadlu am draffig.[1]
Caewyd y rheilffordd oherwydd colledion ar ôl tirlithriad yn ystod 1953.
Ail-enedigaeth
golyguOherwydd diddordeb David Burke, newyddiadurwr gyda phapur newydd Melbourne ‘The Sun’, trefnwyd teithiau rhwng Upper Ferntree Gully a Belgrave ar 11 Rhagfyr 1954 i ddweud farwel i’r rheilffordd, a daeth 30,000 o bobl. Trefnwyd teithiau eraill ar 27 Rhagfyr[1]. Oherwydd llwyddiant y teithiau, ffurfiwyd Cymdeithas Cadwriaeth Puffing Billy, trwsiwyd y rheilffordd, ac agorodd y lein hyd at Menzies Creek ym1962, Emerald ym 1965, Lakeside ym 1975, a Gemsbrook yn Hydref 1998.[2]
Locomotifau stêm
golyguYn wreiddiol o reilffyrdd Victoria
golyguDelwedd | Rhif | Dosbarth | Adeiladwr | Adeiladwyd | Statws | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|
3A | dosbarth NA 2-6-2T |
Gweithdy Newport | 1900 | mewn storfa | Yr un cyntaf o’r dosbarth NA adeiladwyd gan weithdy Newport, yn defnyddio sborion rhif 1A, adeiladwyd gan weithdy Baldwin yn yr Unol Daleithiau. | |
6A | dosbarth NA 2-6-2T |
Gweithdy Newport | 1901 | gweithredol | Wedi adfer mor agos a phosibl i’w gyflwr gwreiddiol (1901-1906); gwyrdd deuliw, llinellau gwynion, bwncer isel, tankiau estynedig. | |
7A | dosbarth NA 2-6-2T |
Gweithdy Newport | 1905 | gweithredol | Wedi adfer mor agos a phosibl i’w gyflwr gwreiddiol (1905–1910); coch a brown "Canadian Pacific", llinellau gwynion, bwncer isel, golau bach. | |
8A | dosbarth NA 2-6-2T |
Gweithdy Newport | 1908 | gweithredol | Wedi adfer mor agos a phosibl i’w gyflwr gwreiddiol (1923–1937) Du,simne wedi meinhau, goleuadau mawrion, bwncer estynedig. | |
12A | dosbarth NA 2-6-2T |
Gweithdy Newport | 1912 | gweithredol | Wedi adfer mor agos a phosibl i’w gyflwr gwreiddiol (1905–1910); coch a brown "Canadian Pacific", llinellau gwynion, bwncer isel, ond gyda goleuadau mawrion,cafn ludw eang. | |
14A | dosbarth NA 2-6-2T |
Gweithdy Newport | 1914 | gweithredol | Wedi adfer mor agos a phosibl i’w gyflwr diweddarach(1938–1946) Du, bwncer estynedig, golau mawr. | |
G42 | dosbarth G 2-6-0+0-6-2 |
Cwmni Beyer Peacock | 1926 | gweithredol | Wedi adfer yn 2004 mor agos a phosibl i’w gyflwr rhwnf 1946 a 1954; du, gyda tho estynedig, simne gwreiddiol, lampiau cerosin, ffender wartheg. |
Locomotifau stêm eraill
golyguDelwedd | Rhif | Dosbarth | Adeiladwr | Adeiladwyd | Statws | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|
861 Decauville | 2-4-2ST | Couillet ar gyfer Decauville | 1886 | Gweithredol | Daeth o Waith Gorllewin Melbourne y Cwmni Nwy Melbourne. Ailadeiladwyd yn y 70au yn rhan o gynllun i adfer rhan o’r rheilffordd i Walhalla. Llogwyd i’r rheilffordd gan y perchennog presennol, a defnynnir ar drenau hyfforddi. | |
986 Carbon | 0-4-0T | Couillet ar gyfer Decauville | 1890 | Gweithredol | Daeth o Waith Gorllewin Melbourne y Cwmni Nwy Melbourne. Defnyddiwyd mewn parc yn Frankston yn y 70au. Llogwyd i’r rheilffordd gan y perchennog presennol. | |
Peckett | 0-4-0ST | Cwmni Peckett | 1926 | Gweithredol | Daeth o Waith Gorllewin Melbourne y Cwmni Nwy Melbourne. Defnyddir mewn digwyddiadau Tomos y Tanc, a hefyd fel "Peter Peckett". | |
1694 | Climax, 2 bogi. |
Gweithdy Climax | 1928 | Gweithredol | locomotive Climax gyda gerïau; yr un olaf adeiladwyd erioed, a’r unig yn â lled 2’6”. Defnyddiwyd ar Dramffordd Dyffryn Tyers ar drenau coed hyd at 1949. Adferir gan reilffordd Puffing Billy yn yr 80au. Atgyweiriwyd ym Medi 2013..[3] | |
NG127 | Rheilffyrdd De Affrica dosbarth NG G16 2-6-2+2-6-2|NG G16]] 2-6-2+2-6-2 |
Cwmni Beyer,Peacock | mewn storfa | Defnyddiwyd ar y Banana Express yn Ne Affrica. Daeth i [[Awstralia yn 2012. tarddle sborion ar gyfer NG129, ac efallai i adfer yn y dyfodol a newid i led 2’6” | ||
NG129 | Rheilffyrdd De Affrica dosbarth NG G16 2-6-2+2-6-2|NG G16]] 2-6-2+2-6-2 |
Cwmni Beyer,Peacock | 1951 | Ailadeiladir a newidir i led 2’6”. | Daeth i Awstralia ym 1996. | |
14 Shay | locomotif Shay 2 bogi |
Gweithdy Lima | 1912 | yn Amgueddfa Nant Menzies | Defnyddiwyd yn gynt ar Reilffordd Fforest Alishan yn Taiwan. Imewnforiwyd i Awstralia i’w warchod yn y 70au. | |
3 Sub Nigel | 0-6-0WT | Orenstein a Koppel | 1931 | yn Amgueddfa Nant Menzies | Defnyddiwyd gan gwmni cloddu aur Sub Nigel cyf, yn Ne Affrica.. |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Tudalen ail-enedigaeth ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-27. Cyrchwyd 2018-01-23.
- ↑ "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-16. Cyrchwyd 2018-01-08.
- ↑ "Climax 1694 steams again". Puffing Billy Preservation Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-24. Cyrchwyd 24 June 2014.
Dolen allanol
golygu- Gwefan y rheilffordd Archifwyd 2018-02-08 yn y Peiriant Wayback