Rheilffordd y Friog
Mae Rheilffordd y Friog yn mynd o bentref Fairbourne ar hyd penrhyn i aber Afon Mawddach, lle mae fferi i Abermaw i gerddwyr.[1]
Math | rideable miniature railway, rheilffordd dreftadaeth |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1895 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Arthog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6951°N 4.0508°W |
Hyd | 3.2 cilometr |
Rheilffordd y Friog | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Hanes
golyguAdeiladwyd tramffordd i hwyluso adeiladu pentref Fairbourne, a daeth y dramffordd yn Rheilffordd y Friog, yn mynd o Fairbourne i aber Afon Mawddach ym 1895. Lled y traciau oedd 2 droedfedd. Cyllidodd y lein wreiddiol gan Arthur MacDougall, perchennog y cwmni blawd.[2]
Prynwyd y rheilffordd gan Narrow Gauge Railways Limited, cwmni Bassett Lowke, ym 1916[3] a newidiwyd lled y traciau i 15 er mwyn defnyddio locomotifau a cherbydau Bassett Lowke; roedd y fath reilffyrdd yn boblogaidd, ac mae rhai wedi goroesi hyd at heddiw.
Llogwyd y reilffordd i ddynion y fferi dros yr afon i Abermaw am sbel, ac ar un adeg, defnyddiwyd cyfuniad o drac 15 a 18 modfedd er mwyn defnyddio locomotif 18 modfedd. Caewyd y lein 1940.
Achubwyd y rheilffordd gan grŵp o ddynion busnes o Birmingham ym 1946, ac ailagorwyd y lein ym 1947. Perchennog y rheilffordd oedd John Wilkins. Fynnodd y rheilffordd yn y 60au a 70au cynnar, ond roedd yno ostwng mewn niferoedd o deithwyr trwy weddill y 70au ac 80au.
Prynwyd y rheilffordd gan deulu Ellerton ym 1984, a newidiwyd lled y traciau i deuddeg modfedd a chwarter[3]. Daeth 4 locomotif newydd, dau ohonynt o Reilffordd Réseau Guerlédan yn Llydaw . Maent i gyd yn gopïau hanner maint o locomotifau cledrau cul eraill, sef Yeo, Sherpa, Beddgelert a Russell. Gadawodd y locomotifau 15 modfedd i gyd, heblaw am Sylvia, sydd wedi cael ei ailadeiladu i fod yn addas i'r trac newydd.
Prynwyd y rheilffordd ym mis Ebrill 1995 gan yr athro Tony Morrison a'i wraig a'r meddyg Dr Melton a'i wraig, sydd wedi buddsodi'n drwm yn y rheilffordd a Chanolfan Rowen er mwyn eu gwarchod nhw. Cymerodd y rheilffordd statws elusennol yn Chwefror 2009[4].
Locomotifau Stêm
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
Sherpa | 0-4-0ST Dosbarth B Rheilffordd Darjeeling a Himalaya hanner maint. | Cynlluniwyd gan Neil Simkins. Adeiladwyd 1978 ar gyfer Rheilffordd Réseau Guerlédan. Enw gwreiddiol: France. | Sherpa, wrth groesi Croesfan Gornel Penrhyn | |
Yeo | 2-6-2T. Copi hanner maint locomotif Rheilffordd Lynton a Barnstaple | Cynlluniwyd ac adeiladwyd gan David Curwen ym 1978 ar gyfer Rheilffordd Réseau Guerlédan. Enw gwreiddiol: Jubilee. | Yeo wrth ymyl Bocs Signalau Gorsaf Fferi Abermaw | |
Beddgelert | Copi hanner maint locomotif Rheilffordd Cludrau Cul Gogledd Cymru. | Cynlluniwyd ac adeiladwyd gan David Curzon ym 1979/80. Enw gwreiddiol: David Curwen. Yn arddangosfa a derbynfa Gorsaf reilffordd Fairbourne. | Beddgelert wrth orsaf Fferi Abermaw | |
Russell | 2-6-4T Copi locomotif Rheilffordd Eryri. | Adeiladwyd gan Milner Engineering fel copi locomotif [[cwmni Kitson Rheilffordd Leek a Manifold; ailadeiladwyd ym 1985 i fod yn copi'r locomotif Rheilffordd Eryri. Gweithredol | Coch | Russell a'i drên wrth orsaf Fferi Abermaw |
Locomotifau diesel
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
Gwril | Dosbarth DH25 Jenbach, adeiladwyd ym 1994 gan Gwmni Hunslet. | Gwril wrth orsaf Fairbourne | ||
Lilian Walter | Adeiladwyd gan Guest Engineering ym 1961, efo enw gwreiddiol Silvia. | Ailadeiladwyd yn Fairbourne ym 1985 i ymddangos yn locomotif Americanaidd. Addaswyd ar gyfer traciau lled deuddeg modfedd a hanner ym 1986. Yn cael ei atgyfodi, efo enw Tony er cof yr Athro Tony Anderson. | Lilian Walter cyn i'r injan gael ei ailadeiladu yn y 2000au |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Parc Genedlaethol Eryri[dolen farw]
- ↑ "Gwefan Narrow Gauge Pleasure". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-22. Cyrchwyd 2014-06-25.
- ↑ 3.0 3.1 Gwefan Miniature Railway World
- ↑ "Tudalen hanes y reilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-15. Cyrchwyd 2014-06-25.
- ↑ 5.0 5.1 Tudalen locomotifau ar wefan y rheilffordd[dolen farw]
Dolen allanol
golygu-
Rheilffordd Fairbourne
-
Y rheilffordd, ac Abermaw yn y cefndir