Rheinallt H Rowlands
Roedd Rheinallt H Rowlands yn ddeuawd cerddorol o Lanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn rhwng 1991 a 2001. Yr aelodau oedd canwr Owain 'Oz' Wright gyda Dewi Evans yn creu'r gerddoriaeth gefndir. Recordiwyd y band tri albwm a pherfformiwyd yn rheolaidd yng Nghymru a thu hwnt.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Label recordio | Ankst |
Dod i'r brig | 1991 |
Dechrau/Sefydlu | 1991 |
Genre | cerddoriaeth boblogaidd |
Defnyddir tôn eu cân Merch o Gaerdydd ar gyfer cerddoriaeth agoriadol y rhaglen radio Talwrn y Beirdd. Enwyd y LP Bukowski (1996) yn un o recordiau'r flwyddyn ym mhapur newydd Llundain The Independent.[1]
Ffurfio'r band
golyguYm 1990 fe wahoddwyd y label Recordiau Ankst nifer o grwpiau Cymraeg i recordio fersiynnau newydd o ganeuon record hir 1979 Geraint Jarman Hen Wlad fy Nhadau ar gyfer albwm teyrnged aml-gyfrannog.[2]
Yn anhapus nad oedd ei grŵp Y Fflaps wedi'i wahodd i gyfrannau, penderfynodd Alan Holmes ryddhau ei albwm aml-gyfrannog ffug ei hunain i ddychanu ymdrechion Ankst. Recordiwyd Hen Wlad y Lladd-dai[3] ar offer elfennol yn sied Holmes ym Mhorthaethwy gyda Holmes yn chwarae llawer o'r traciau gan ddewis arddulliau cwbl wahanol i'r gwreiddiol – er enghraifft mae'r gân Steddfod yn y Ddinas, cân reggae ar albwm gwreiddiol Jarman, yn cael ei dro'n gân death metal.
Gwahoddwyd Dewi Evans gan Holmes i'w gynorthwyo gyda recordio sawl darn o gerddoriaeth gefndir. Ar gyfer prif gân yr albwm Hen Wlad fy Nhadau gofynnodd Holmes i 'Oz' Wright ganu mewn arddull debyg i Scott Walker neu 'crooner' 1950iadd.
Dyfeisiwyd enwau grwpiau dychmygol ar gyfer pob un o'r traciau, yn cynnwys: Y Dyfrgwn, Mudiad Moes a Symffonia Waunfawr. Ar gyfer trac Ethiopia Newydd fe roddwyd yr enw Rheinallt H Rowlands.
Llwyddodd Holmes gwblhau Hen Wlad y Lladd-dai a chael y casetiau ar werth cyn y fersiwn Ankst gan dderbyn llawn gymaint o sylw. Chwaraewyd y trac ''Ethiopia Newydd'' sawl tro ar Radio Cymru phan wahoddwyd Wright ac Evans i recordio sesiwn ar gyfer ei rhaglen radio Heno Bydd yr Adar yn Canu gan Nia Melville penderfynon fynd ati i berfformio a recordio'n rheolaidd o dan yr enw Rheinallt H Rowlands.
Hanes
golyguWrth sefydlu'r band yn ffurfiol fe rhyddhawyd datganiad i'r wasg gyda hanes bywyd ffug Rheinallt H Rowlands – yn gyn chwarelwr a oedd ar fin hunanladdiad pan clywodd roedd y chwarel i'w gau, ond wrth glywed llais Ian Curtis o Joy Division ar raglen John Peel fe'i ysbrydolwyd i fod yn ganwr.[4]
Yn 1993 rhyddhaodd y ddeuawd gaset Hendaid Brân a Straeon Eraill ar label Alan Holmes Central Slate. Fe'i ail-ryddhawyd ym 1998 ar CD gan ankstmusik. Defnyddiwyd llun a oedd i fod yn Rheinallt H Rowlands ei hun (a oedd digwydd bod yn Alan Dalon hen seren ffilm Ffrengig) ar y clawr er mwyn cadw'r 'mistique' a oedd Rheinallt H Rowlands yn berson go iawn.
Yn 1996 rhyddhawyd yr LP Bukowski ar ankstmusik[5] gan dderbyn cryn sylw, gyda chymariaethau gyda Scott Walker, Ennio Morricone, a The Divine Comedy. Fe'i enwyd yn un o recordiau'r flwyddyn ym mhapur newydd Llundain The Independent.
Bukowski o'r teitl oedd y bardd bît Americanaidd Charles Bukowski. Ffilmiwyd fideo gyda dawnswyr ball-room a char Cadillac i'r raglen deledu Fideo 9 [6]. Gan nad oedd modd cael ffotograff o'r gwir Charles Bukowski ar gyfer clawr y LP heb dalu hawlfraint, defnyddiwyd llun a oedd mewn ffrâm yn hongian ar wal tŷ tafarn y Glôb, Bangor a dynnwyd gan y landlord Gerallt Williams.[7]
LP olaf y band oedd Rheinallt III, 2001 gyda'u fersiwn o Gwawr Newydd yn Cilio – sef cân Joy Division - New Dawn Fades.
Yn fuan ar ôl rhyddhau Rheinallt III penderfynodd Evans a Wright nad oedd modd datblygu prosiect Rheinallt H Rowlands yn bellach ac fe'u penderfynon rhoi'r gorau iddi. Evans yn canolbwyntio ar gyfansoddi a Wright yn gweithio fel saer coed.
Serch hynny, yn 2005, dechreuodd Evans a Wright weithio ar ganeuon newydd gyda cyn drymiwr Topper a Gorky's Zygotic Mynci Peter Richardson.
Marwolaeth Owain 'Oz' Wright
golyguAr 23 Rhagfyr 2005 fe laddwyd Oz Wright yn 35 oed. Fe'i drawyd gan gar wrth iddo gerdded adref i Bethesda yn dilyn gig Gorky's Zygotic Mynci yn Neuadd Hendre, Talybont.[8]
Recordiadau
golyguHen Wlad y Lladd-dai 1990, Un trac ar y caset aml-gyfrannog, Central Slate Records
- Rheinallt H Rowlands – Ethiopia Newydd
- Siani Rhuban a’r Tri Gwr Drwg – Methu Dal y Pwysa’
- Y Dyfrgwn – “Instant Pundits”
- Topiau Tanc – Sgip ar Dân
- Y Crwban Glas – O Lisa
- Mudiad Moes – Merch Ty Cyngor
- Mam ar Dân – Disgwyl y Barbariaid
- Seraffin – Paradwys Ffwl
- Emyr Jirásek a’r Lliwiau – Un Cam Ymlaen
- Ffilbi, Burjess, Maclein a Blynt – ‘Steddfod yn y Ddinas
- Symffonia Waunfawr – Hew Wlad Fy Nhadau
Hendaid Brân a Straeon Eraill, 1993 caset ar label Central Slate.
Fe'i ail-ryddhawyd ym 1998 ar CD (Ankstmusik 85)
- Hendaid Brân
- Marwnad #1: Mae 'O' Wedi Mynd
- Ethiopia Newydd
- Pethau
- Un Nos Yn 'Little Venice'
- Y Dre Chwarel
- Simone
- Yakub Beg
- Hendaid Brân: Atbreis
Bukowski, 1996 (Ankst 071)
- Diwrnod Braf
- Snow
- Carchar Meddwl Meddal
- Merch O Gaerdydd
- Uchelgais
- Loved
- Bukowski
- Dydd Gŵyl Giro Sant
- Isabella
- Nos Da Cariad
Rheinallt III, 2001 (Ankstmusik 95)
- Llannw
- Bore Fel Miloedd Eraill
- Never Thought I'd Feel This Way
- Edward yn Hedfan
- Gwirod
- Hush My Lover
- Y Dyddiau Olaf
- Y Llythyr Llaw Chwith
- Fe Ddaw y Nadredd
- Boddi
- Baich y Dyffryn
- Y Dyddiau Cyntaf'
- Cartref
- Gwawr Newydd yn Cilio
Trac ar y CD Triskedekaphilia aml-gyfrannog (Ankst 061)[9]
- Gwawr Newydd yn Cilio
Trac ar Sengl 7 / CD S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 2 (Ankst 070)
- Merch O Gaerdydd
Dolenni
golygu
Fideos ar YouTube
Hendaid Bran http://www.youtube.com/watch?v=r9GWM-QtViY
Pethau - ffilmiwyd yn Rhosgadfan http://www.youtube.com/watch?v=lfy2NwwK_IU
Bukowski - ffilmiwyd ym Menllech http://www.youtube.com/watch?v=q6kbkef95uw
Simone - ffilmiwyd ym Mharis http://www.youtube.com/watch?v=odTIgXi_sQc
Llanw – ffilmiwyd yn Nulyn http://www.youtube.com/watch?v=fFzzK4UObT8
Gwawr Newydd yn Cilio http://www.youtube.com/watch?v=wiHb2wE9_r4
Merch O Gaerdydd http://www.youtube.com/watch?v=glyif2uSKxo
Gwirod http://www.youtube.com/watch?v=qwMSt4Q373k
Rheinallt H Rolands ar iTunes https://itunes.apple.com/us/artist/rheinallt-h.-rowlands/id137876273
Seven Years of Plenty: Handbook of Irrefutable Pop Greatness, 1991-98 gan Ben Thompson, yn cynnwys pennod ar Rheinallt H Rowlands (Phoenix. ISBN 0753808544, ISBN 978-0753808542)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.independent.co.uk/arts-entertainment/freak-out-1360021.html
- ↑ http://ankst.co.uk/catalog/ Archifwyd 2014-06-04 yn y Peiriant Wayback Hen Wlad Fy Nhadau – Amrywiol (Caset Ankst 013)
- ↑ http://link2wales.co.uk/1990/archive-reviews/hen-wlad-y-lladd-dai-is-released-on-central-slate/#more-10755
- ↑ "Rheinallt H. Rowlands - Cyflwyniad". rheinallt.com. 2008-01-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-05. Cyrchwyd 2023-04-22.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ http://ankst.co.uk/ankst-1988-1998/
- ↑ http://www.youtube.com/watch?v=q6kbkef95uw
- ↑ https://www.flickr.com/photos/24785384@N02/2524837559/
- ↑ http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/north_west/4555328.stm
- ↑ http://www.discogs.com/Various-Triskedekaphilia-Sesiynau-Heno-Bydd-Yr-Adar-Yn-Canu-Sessions/release/2653437