Rhestr o Enwau Lleoedd

llyfr golygwyd gan Elwyn Davies

Cyfeirlyfr wedi'i paratoi gan Bwyllgor Iaith a Llenyddiaeth Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ac wedi'i olygu gan Elwyn Davies yw Rhestr o Enwau Lleoedd / A Gazetteer of Welsh Place Names. Syr Ifor Williams a ysgrifennodd y rhagair. Gwasg Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny am y tro cyntaf yn 1957. Cafwyd argraffiadau dilynol yn 1958, 1967 a 1975.

Rhestr o Enwau Lleoedd
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
GolygyddElwyn Davies
AwdurY Bwrdd Gwybodau Celtaidd Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg a Saesneg
PwncEnwau Lleoedd yng Nghymru
Tudalennau118 + xxxviii
GenreCyfeirlyfr

Mae'r llyfr yn darparu orgraff safonol ar gyfer pob lle ac yn rhoi cyfeirnod Arolwg Ordnans iddo. Mae'r llyfr yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr, ond fe'i disodlwyd gan rhestr Enwau Lleoedd Safonol Cymru, sydd ar gael ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Gwefan Comisiynydd y Gymraeg