Rhewlifiant Cryogenaidd
Mae'r Rhewlifiad Cryogenaidd yn un o 5 rhewlifiad anferthol a'r ail rewlif ers ffurfio'r Ddaear, gyda Rhewlifiad Hwronaidd o'i flaen a'r Rhewlifiad Andea-Saharaidd ar ei ôl. Tarddiad y gair yw'r Hen Roeg cryos "oerfel" a genesis "geni". Parodd y cyfnod hwn rhwng 720 i 635 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).
Math o gyfrwng | system, cyfnod |
---|---|
Rhan o | Neoproterosöig, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS |
Dechreuwyd | c. Mileniwm 721. CC |
Daeth i ben | c. Mileniwm 636. CC |
Rhagflaenwyd gan | Tonian |
Olynwyd gan | Ediacaran |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at Oes Iâ; am erthygl am y Cyfnod (daeareg) gweler: Cryogenaidd (Cryogenian).
Wedi ffurfio'r Ddaear ar ddechrau'r Eon Hadeaidd, oerodd yn araf, dros gyfnod hir o amser, a chafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ (neu rewlifau) sylweddol: y Rhewlifiad Hwronaidd (Huronian), y Cryogenaidd, y Rhewlifiant Andea-Saharaidd (Andean-Saharan), Oes Iâ Karoo a'r Rhewlifiant Cwaternaidd sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw. Ar wahân i'r 5 cyfnod yma, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew yn unman ar y Ddaear yn ystod y cyfnodau eraill.[1][2]
Yn y gorffennol cafwyd cryn anghytundeb am union ddechrau'r cyfnod Cryogenaidd, ond bellach nodir y dylai ei ddechrau fod yr un dyddiad a dechrau'r rhewlif Cryogenaidd.[3] Mae'n bur debyg i'r Rhewlif Cryogenaidd fod yr Oes Iâ oeraf o'r 5. Roedd y Rhewlif hwn yn ehangu ac yn crebachu'n eitha rheolaidd, gan gyrraedd (ar ei anterth) y cyhydedd.[4]
Yn rhyfeddol, yn ystod y Cryogenaidd y ceir y ffosiliau (ac felly'r anifail cynharaf.[5][6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Lockwood, J.G.; van Zinderen-Bakker, E. M. (Tachwedd 1979). "The Antarctic Ice-Sheet: Regulator of Global Climates?: Review". The Geographical Journal 145 (3): 469–471. doi:10.2307/633219. JSTOR 633219.
- ↑ Warren, John K. (2006). Evaporites: sediments, resources and hydrocarbons. Birkhäuser. t. 289. ISBN 978-3-540-26011-0.
- ↑ "GSSP Table - Precambrian". Geologic Timescale Foundation. Cyrchwyd 7 Medi 2013.
- ↑ Dave Lawrence (2003). "Microfossil lineages support sloshy snowball Earth". Geotimes.
- ↑ Maloof, Adam C.; Rose, Catherine V.; Beach, Robert; Samuels, Bradley M.; Calmet, Claire C.; Erwin, Douglas H.; Poirier, Gerald R.; Yao, Nan et al. (17 Awst 2010). "Possible animal-body fossils in pre-Marinoan limestones from South Australia". Nature Geoscience 3 (9): 653–659. Bibcode 2010NatGe...3..653M. doi:10.1038/ngeo934. http://www.nature.com/ngeo/journal/v3/n9/abs/ngeo934.html.
- ↑ "Discovery of possible earliest animal life pushes back fossil record". 2010-08-17.