Rhewlifiant Andea-Saharaidd

rhewlifiant

Digwyddodd y Rhewlifiad Andea-Saharaidd, un o'r 5 prif Oes Iâ, yn ystod y gorgyfnod Paleosöig: rhwng 450 a 420 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP): yn ystod y cyfnod Ordofigaidd a'r Silwraidd.

Rhewlifiant Andea-Saharaidd
Enghraifft o'r canlynolcyfnod rhewlifol Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 451. CC Edit this on Wikidata
Daeth i benMileniwm 421. CC Edit this on Wikidata

Yn ystod y Rhewlifiant hwn, gwyddys i rewlifau ffurfio o Arabia, Gorllewin Affrica, de'r Basn Amazonas hyd at yr Andes. Symudodd canol y rhewlifiant o'r Sarhara (yn ystod yr Ordofigaidd (450-440 miliwn CP) i Dde America yn y Silwraidd (440–420 m CP). Yn ei anterth, gwelwyd ffurfio rhewlifau yn Affrica a gorllewin Brasil.[1]

Dyma un o'r Oesoedd Iâ lleiaf. Fe'i rhagflaenwyd gan y Cryogenaidd (350–260 m CP) a dilynwyd hi gan yr Oes Iâ Karoo (350–260 m CP).[2]

Y cyd-destun golygu

Rhenir llinell amser daearegol y Ddaear yn bedair Eon: y cyntaf yw'r Eon Hadeaidd, sy'n cychwyn pan ffurfiwyd y Ddaear. Fel yr awgryma'r gair, a ddaw o'r Hen Roeg, 'Hades' (uffern), roedd y Ddaear yn aruthrol o boeth, gyda llosgfynyddoedd byw ymhobman, ond yn araf, a thros gyfnod hir, oeroedd y Ddaear ac erbyn y 3ydd Eon, y Proterosöig, daeth y tymheredd mewn rhai mannau o'r Ddaear yn is na rhewbwynt a chafwyd haenau trwchus o rewlifau'n ffurfio. Ers hynny cafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: y Rhewlifiant Hwronaidd (Huronian), y Rhewlifiant Cryogenaidd (Cryogenian), y Rhewlifiant Andea-Saharaidd hwn (Andean-Saharan), Oes Iâ Karoo a'r Rhewlifiant Cwaternaidd sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw. Mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew mewn unrhyw ran o'r Ddaear ar unrhyw adeg arall.[3][4] Credir i gapiau rhew yr Arctig a'r Antartig gael eu ffurfio rhwng 5 a 15 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

 
Diagram yn dangos y 4 Eon (Hadeaidd, Archeaidd, Proterosöig a Ffanerosöig sef yr oes bresennol ar yr ochr dde. Yn y gwaelod ceir y 5 prif Oes Iâ.

Cyfeiriadau golygu

  1. Aber, James S. (2008). "ES 331/767 Lab III". Emporia State University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-10. Cyrchwyd Tachwedd 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. Högele, M. A. (2011), Metastability of the Chafee-Infante equation with small heavy-tailed Lévy Noise, Humboldt-Universität zu Berlin, Mathematisch-Naturwissenschaftliche Fakultät II, http://edoc.hu-berlin.de/dissertationen/hoegele-michael-anton-2010-12-02/PDF/hoegele.pdf, adalwyd Tachwedd 2015
  3. Lockwood, J.G.; van Zinderen-Bakker, E. M. (Tachwedd 1979). "The Antarctic Ice-Sheet: Regulator of Global Climates?: Review". The Geographical Journal 145 (3): 469–471. doi:10.2307/633219. JSTOR 633219.
  4. Warren, John K. (2006). Evaporites: sediments, resources and hydrocarbons. Birkhäuser. t. 289. ISBN 978-3-540-26011-0.