Rhiangar ach Brychan
Santes o'r 5g oedd Rhiangar ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1] Roedd ganddi fab, Cynidr, oedd yn etifedd iddi. Ni wyddom enw ei dad ef. Roedd tiroedd Rhiangar yn ne Brycheiniog a gorllewin Henffordd.
Rhiangar ach Brychan | |
---|---|
Ganwyd | 5 g |
Man preswyl | Llanrhian, Aberhonddu |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Plant | Cynidr |
Diffyg Cysegriadau
golyguAr wahân i eglwys yn Llech ym Maelienydd nid oes eglwysi sy'n parhau i ddwyn enw Rhiangar. Cyfeirir mewn hen ddogfennau at "lannau Rhiangar a Chynidr", a ail-gysegrwyd i Fair, mam Iesu yn ddiweddarach.[1] Ond ceir eglwysi sy'n dwyn enw ei mab: Llangynidr ym Mhowys ac Aberysgir a Llan-y-wern ble gelwir yr eglwysi yn "Eglwys Fair a Cynidr". Yn Nghantref ac yn Kenderchurch (eglwys Cynidr) mae'r cysegriad presennol hefyd wedi'i newid i Fair. Pan drosglwyddwyd awdurdod dros yr eglwys yn y Clas-ar-Wy i fynachdy Sant Pedr, Caerloyw yn 1088 cyfeiriwyd ati fel "eglwys sant Cynidr. Heddiw gelwir hi yn eglwys Sant Pedr.[1]
Mae Rhiangar yn enghraifft o santes sydd bron wedi mynd yn anghof oherwydd y tuedd Normanaidd i ail-gysegru eglwysi.