Cynidr

sant

Sant Cymreig cynnar o'r 6g oedd Cynidr a fu'n esgob ar y Clas-ar-Wy, ym Mhowys.

Cynidr
Well, Ffynnon Gwynydd, Glasbury - geograph.org.uk - 61678.jpg
Ffynnon Gynydd
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Man preswyly Clas-ar-Wy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethesgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
TadGwynllyw Edit this on Wikidata
MamSantes Gwladys Edit this on Wikidata

Yn ôl y De Situ Brecheniauc ei fam oedd Ceingair ferch Brychan, ond ni wyddom pwy oedd ei dad.[1] Fodd bynnag, yn y Generatio Sancti Egwini dywedir mai Gwynllyw oedd ei dad a bod ganddo ddau frawd: Cadog ac Eigion. Yn ôl Breverton, roedd Cynidr yn fab i Gwladys,[2] ac yn ŵyr i Brychan.[3][4]

Yr olygfa tuag at Llangynidr, pentref a gafodd ei enw gan Sant Cynidr.

Mae'r Bywgraffiadur Arlein yn nodi tair mam posibl:

  1. Rhiant: Geingar ferch Brychan
  2. Rhiant: Gwladys ferch Brychan
  3. Rhiant: Gwynllyw[5]

Ar wahân i Glas-ar-Wy, roedd ganddo gysylltiadau gydag eglwysi Aberysgir, Llanywern, Cantref a Llangynidr, i gyd ym Mrycheiniog. Credir fod ganddo hefyd gysylltiadau gydag lle a enwir yn Llyfr Llandaf yn 'Llanncinitir' yn Erging, hen deyrnas Gymreig a oedd a'i hanner ym Mynwy a hanner yn yr hyn a elwir heddiw yn Swydd Henffordd (Archenfield cyn hynny).[6] Yng Nghlas-ar-Wy, ceir ffynnon hynafol i gofio amdano, a elwir yn "Ffynnon Gynydd".

Yng Nghlas-ar-Wy y bu farw ac yno y claddwyd ef.[7] Mae ei Ŵyl Masant ar 27 Rhagfyr.

CyfeiriadauGolygu

  1. A Welsh Classical Dictionary; gol. P.C. Bartrum; adalwyd 8 Rhagfyr 2018.
  2. T. D. Breverton, A Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndwr, 2000).
  3. Church at Llanigon Archifwyd August 14, 2013, yn y Peiriant Wayback..
  4. S. Baring-Gould, The Lives of the British Saints Vol. 3.
  5. bywgraffiadur.cymru; adalwyd 8 Rhagfyr 2018.
  6. Cyfeiriad yn Llyfr Llandaf: f (BLD 277, WATU, LBS II.258).
  7. Lives of the British Saints. 2, t.258.