Rhiannon Davies Jones

awdur a darlithydd
(Ailgyfeiriad o Rhiannon Davies-Jones)

Awdures nofelau hanesyddol Gymraeg, yn bennaf, oedd Rhiannon Davies Jones (3 Tachwedd 192122 Hydref 2014).[1]

Rhiannon Davies Jones
Ganwyd3 Tachwedd 1921 Edit this on Wikidata
Llanbedr Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 2014 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, darlithydd Edit this on Wikidata
Clawr Lleian Llan-Llŷr, nofel gan Rhiannon Davies Jones

Bywgraffiad

golygu

Ganed hi yn Llanbedr yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw) yn 1921. Daeth i amlygrwydd pan enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 am y nofel fer Fy Hen Lyfr Cownt. Enillodd y Fedal Ryddiaith eto ym 1964 gyda Lleian Llan-Llŷr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1964. Roedd yn awdures naw o nofelau a hefyd bu'n athrawes a hefyd yn ddarlithydd yn y Coleg Normal, Bangor.

Bu farw yn 2014.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Stephens, Meic. Rhiannon Davies Jones: Welsh-language author whose impassioned historical novels carried a nationalist message (en) , The Independent, 28 Hydref 2014. Cyrchwyd ar 31 Ionawr 2016.