Rhiannon Wyn

llenor

Awdures a sgriptwraig o Gymru yw Rhiannon Wyn (ganwyd 19 Mawrth 1979).

Rhiannon Wyn
Ganwyd19 Mawrth 1979 Edit this on Wikidata
Groeslon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, llenor Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Cafodd Rhiannon ei geni a'i magu yn y Groeslon, ger Caernarfon, yn ferch i'r nofelydd Eirug Wyn. Mynychodd Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes. Graddiodd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth o Goleg Prifysgol Aberystwyth, cyn teithio o gwmpas y byd am flwyddyn. Mae’n gweithio fel sgriptwraig ar Rownd a Rownd a Pobol y Cwm.[1]

Enillodd Wobr Tir na n-Og 2010 yng ngategori Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd gyda'i nofel Codi Bwganod, ac unwaith eto yn 2012 gyda Yr Alarch Du.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Codi Bwganod (Cyfres yr Onnen), Ionawr 2009 (Y Lolfa)
  • Yr Alarch Du, Tachwedd 2011 (Y Lolfa)

Gwobrau ac anrhydeddau

golygu
  • 2010 – Gwobr Tir na n-Og, Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd – Codi Bwganod
  • 2012 – Gwobr Tir na n-Og, Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd – Yr Alarch Du

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Nofelwyr Ifanc yn cipio Gwobrau Tir na n-Og 2010. Cyngor Llyfrau Cymru (3 Mehefin 2010). Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  2.  Gwobrau Tir na n-Og. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.

Dolenni allanol

golygu