Gwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam

tafarn ym Mharc Caia, Wrecsam

Gwesty a thafarn hanesyddol yng nghanol ddinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Wynnstay Arms.

Gwesty'r Wynnstay Arms
Mathgwesty, tafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam
SirWrecsam
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr79.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.045219°N 2.991154°W Edit this on Wikidata
Cod postLL13 8LP Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethMarston's Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Lleoliad golygu

Mae'r Wynnstay Arms yn sefyll ar Stryt Yorke yng nghanol Wrecsam, ar y gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Caer a Stryt Siarl. Mae golygfa drawiadol tuag at y gwesty ar hyd y Stryt Fawr.

Hanes golygu

Yn y 18fed ganrif ar safle'r adeilad cyfredol roedd tafarn o'r enw The George. Newidiwyd yr enw i'r Eagles pan oedd y gwesty yn perthyn i'r teulu Williams-Wynn o Blasty Wynnstay, Rhiwabon. Codwyd yr adeilad cyfredol yn y 18fed ganrif. [1]

Parhaodd y gwesty dan enw'r Eagles hyd at y 19eg ganrif, pan gafodd yr enw ei newid i'r Wynnstay Arms. Yn y chwedegau gwerthwyd y gwesty ac roedd gan y perchennog newydd gynlluniau i ddymchwel yr holl adeilad. Yn y pen draw, fe gadwyd y ffasâd wrth i weddill yr adeilad gael ei ddymchwel a'i ddisodli gyda gwesty modern. Ar yr un pryd newidiwyd enw'r gwesty i'r Wrexham Crest Hotel. Yn 1985, gwerthwyd y gwesty unwaith eto gyda'r perchennog yn newid enw'r gwesty yn ôl i'r Wynnstay Arms.[1]

Adeilad eiconig yn Wrecsam ydy'r Wynnstay Arms ac mae'r gwesty wedi chwarae rôl sylweddol yn hanes y ddinas. Ar 2 Chwefror 1876, sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn cyfarfod yn y gwesty. Dywedwyd yn ogystal i David Lloyd George gyhoeddi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf o falconi'r gwesty.[2]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Buildings and Places of Wrexham Past and Present". chris-myers.co.uk.
  2. "Wynnstay Arms Hotel, Wrexham". historypoints.org. Cyrchwyd 25 Hydref 2022.