Rhisglyn y Gogledd

Lycia lapponaria
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Genws: Lycia
Rhywogaeth: L. lapponaria
Enw deuenwol
Lycia lapponaria
(Boisduval, 1840)[1]

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhisglyn y Gogledd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy rhisgl y Gogledd; yr enw Saesneg yw Rannoch Brindled Beauty, a'r enw gwyddonol yw Lycia lapponaria.[2][3] Mae i'w ganfod yn y rhan fwyaf o'r rhan ogleddol o'r Palearctig gan gynnwys yr Alban.

26–34 mm ydy lled adenydd agored y gwryw ac nid oes gan y fenwy adenydd. Yn y gogledd mae i'w weld yn hedfan rhwng Mai a Mehefin; yn ne'r ardal Palearctig mae'n hedfan rhwng Mawrth ac Ebrill.

Prif fwyd y siani flewog ydy Betula nana, Myrica gale a Calluna vulgaris. Maen nhw i'w gweld ymg Mgorffennaf ac yn gaeafgysgu ar ffurf chwiler.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r rhisglyn y Gogledd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. Fauna Europaea
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.