Rhisglyn y gwanwyn

Agriopis leucophaearia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Llwyth: Bistonini
Genws: Agriopis
Rhywogaeth: A. leucophaearia
Enw deuenwol
Agriopis leucophaearia
Denis & Schiffermüller, 1775

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhisglyn y gwanwyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy rhisgl y gwanwyn; yr enw Saesneg yw Spring Usher, a'r enw gwyddonol yw Agriopis leucophaearia.[1][2] Daw'r enw o'r ffaith fod yr oedolyn yn ymddangos allan o'i sach grisial (ei gyflwr chwiler) yn gynharach na'r rhan fwyaf o wyfynod - yn Chwefror.

23–28 mm yw lled adenydd agored yr oedolyn gwryw ond nid oes gan y fenyw adenydd o gwbwl.[3] Mae'r fenyw yn cropian i fyny rhisg y dderwen a hedfana'r gwryw atynt.

Prif fwyd y siani flewog ydy'r dderwen (Quercus).

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r rhisglyn y gwanwyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. UK Moths adalwyd 10/11/2012.