Rhiwallon fab Urien
Un o feibion Urien Rheged (fl. 550-90), brenin teyrnas Rheged yn yr Hen Ogledd, oedd Rhiwallon fab Urien, a elwir hefyd yn Rhiwallon Wallt Banhadlen (fl. ail hanner y 6g - dechrau'r 7g?).
Rhiwallon fab Urien | |
---|---|
Ganwyd | 6 g |
Tad | Urien Rheged |
Roedd ganddo dri frawd, sef Owain, Rhun a Pasgen. Ei frawd Owain a etifeddodd y deyrnas pan laddwyd Urien Rheged: canodd y bardd Taliesin iddo, ac i Urien hefyd, ond ni cheir canu ar glawr i Riwallon ei hun.
Ychydig o wybodaeth sydd gennym amdano, ond mae ganddo le yn hanes traddodiadol Cymru. Cyfeirir ato yn y Trioedd fel arweinydd un o 'Dri Hualogion Deulu Ynys Brydain', gyda theulu (gosgordd neu fintai o ryfelwyr) Cadwallon Llawhir a theulu Belyn o Lŷn. Cyfeiriad digon moel ydyw, sy'n cyfeirio at fintai Rhiwallon "yn ymladd â['r] Saeson". Cynigir Rachel Bromwich fod y term "hualogion" yn cyfeirio at ryw fath o insignia brenhinol.
Mae'r ddau gyfeiriad arall yn llai sicr, ond credir mai'r un yw "Rhiwallon Wallt Banhadlen" (a'i wallt yn felyn, yr un lliw â banadl) a Rhiwallon fab Urien. Roedd yn un o "Dri Deifniog" Ynys Brydain, gyda Gwalchmai fab Gwyar a Llachau fab Arthur; mae'r gair deifniog yn golygu "pwysig, sylweddol, cyfoethog" ac yn awgrymu statws brenhinol eto. Cyfeirir ato fel un o "Dri Hualog Ynys Brydain" hefyd, gyda Cadwaladr Fendigaid a Rhun ap Maelgwn Gwynedd.
Cyfeiriadau
golygu- Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Gwasg Prifysgol Cymru, 1961; argraffiad newydd, 1991), trioedd 4, 17, 62