Rhun fab Urien

teyrn (550- )

Un o feibion Urien Rheged (fl. 550-90), brenin teyrnas Rheged yn yr Hen Ogledd, oedd Rhun fab Urien, a elwir hefyd yn Rhun Ryfeddfawr (fl. ail hanner y 6g - dechrau'r 7g).

Rhun fab Urien
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadUrien Rheged Edit this on Wikidata
PlantRhoedd Edit this on Wikidata

Roedd ganddo dri frawd, sef Owain, Rhiwallon a Pasgen. Ei frawd Owain a etifeddodd y deyrnas pan laddwyd Urien Rheged: canodd y bardd Taliesin iddo, ac i Urien hefyd, ond ni cheir canu ar glawr i Rhun ei hun.

Ychydig o wybodaeth sydd gennym amdano. Mae ei enw yn digwydd yn yr achau traddodiadol fel un o feibion Urien. Mae'n debygol ei fod i'w uniaethu â'r Run map Urbag(h)en y cyeirir ato yn yr Annales Cambriae a'r Historia Brittonum (pennod 63), yn cymryd rhan yng ngwasanaeth bedyddio y brenin Edwin o Northumbria yn y flwyddyn 627, pan dderbyniodd y brenin hwnnw a'i ddilynwyr y ffydd Gristnogol. Ond does dim sicrwydd am hynny. Mae'r hanesydd Eingl-Sacsonaidd Beda yn uniaethu'r Rhun hwnnw â'r esgob Paulinus. Mae cofnod arall yn yr Historia Brittonum yn cyfeirio at rywun o'r enw Rhun fel taid Rieinmelth, brenhines Oswy o Northumbria.

Mae ganddo le yn hanes traddodiadol Cymru. Cyfeirir ato yn y Trioedd fel Rhun Ryfeddfawr: dywedir fod ei ferch Perwyr yn un o "Dri Gohoywriain Ynys Brydain". Cyfeirir at Run Ryfeddfawr mewn englyn sy'n perthyn i gylch Canu Llywarch Hen hefyd, fel noddwr hael o ryfelwr.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Gwasg Prifysgol Cymru, 1961; argraffiad newydd, 1991), triawd 78