Rhuban y dŵr
Vallisneria spiralis | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Alismatales |
Teulu: | Hydrocharitaceae |
Genws: | Vallisneria |
Rhywogaeth: | V. spiralis |
Enw deuenwol | |
Vallisneria spiralis Carl Linnaeus | |
Cyfystyron | |
|
Planhigyn dyfrol, blodeuol a geir ledled y byd, yn bennaf yn y trofannau yw Rhuban y dŵr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Hydrocharitaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Vallisneria spiralis a'r enw Saesneg yw Tapegrass.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Ruban y Dŵr.
Tyfant mewn dŵr croyw a dŵr hallt. Gall y dull o beillio fod yn hynod o arbenigol.
Hanes yng Nghymru
golyguNid yw’r planhigyn yn gynhenid i Brydain. Fe’i defnyddir heddiw mewn acwaria trofannol domestig, ynghyd ag Elodea canadensis, i ocsigeneiddio’r dŵr. Ni wyddus pa mor hen yw’r arfer hwn, ond mae cofnod gan fyfyriwr ysgol Annie Robinson o Swydd Gaer, yn ei hadroddiad ”A Week’s Work in Wales“ (1912), iddi adnabod y ddau blanhigyn yma ym Mhenllyn, Llanberis:
- Mae’r cyfeiriad at Valisneria, neu rhuban y dŵr yn ddiddorol, ac yn fwy anelwig. Fy unig gof ohono yw ei brynu mewn siop pysgod trofannol i addurno acwariwm. Dywed ein llyfrau arbenigol heddiw mai prin ac achlysurol ydyw fel planhigyn gwyllt, yn tyfu mewn dŵr sydd wedi ei dwymo — amodau nesaf peth i anthosibl yn nyffryn Llanberis yn 1912. Cyfeiriodd Annie hefyd at Elodea, planhigyn dŵr arall a gyrhaeddodd wledydd Prydain o ogledd America yn 1842 i berwyl tebyg. Tybed a fu Annie yn cadw rhyw fath o danc pysgod yn ei chartref yn Crewe ganrifyn ôl, fel yr oeddwn innau acw yn y Waunfawr hanner canrif yn ddiweddarach, ac mai hwnnw a barodd iddi ddrysu planhigyn yn Llanberis nad oes gobaith erbyn hyn i ni wybod beth ydoedd, â’r Valisneria mwy cyfarwydd iddi?[2]
Os cywir ei hadnabod, byddai’r fath blanhigyn lled-drofannol yn llynnoedd Llanberis yn rhyfedd iawn, ond hyd yn oed os anghywir, onid yw cynefindra merch dosbarth canol yn ei harddegau yn 1912 â phlanhigyn o’r fath yn awgrymu ffasiwn o gadw tanciau pysgod trofannol yn nyddiau cynnar cyflenwad cyhoeddus o drydan.[3]
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Colofn amgylcheddol Duncan Brown, Y Cymro
- ↑ A Week’s Work in Wales, llawysgrif gan Annie Robinson, bellach o eiddo Arwyn Roberts o Lanrug, yr ysgrifennwyd tra ar gwrs daearyddiaeth yn Llanberis gydag ysgol neu goleg yn Crewe, swydd Gaer yn 1912 ac a ddisgrifwyd yn Eco’r Wyddfa