Rhuddlan Teifi
Pentrefan (neu 'amlwd' bychan) yn ne Ceredigion, tua dwy filltir i'r gorllewin o Lanybydder ar y ffordd i Landysul yw Rhuddlan Teifi (ceir sawl amrywiad ar yr enw, yn cynnwys Rhuddlan Deifi, Pentre Rhuddlan neu Rhuddlan yn unig). Mae'n gorwedd ar lan ogleddol Afon Teifi.
Math | Wikimedia duplicated page |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Gwleidyddiaeth | |
Prin bod Rhuddlan yn haeddu cael ei ddisgrifio fel 'amlwd' hyd yn oed, oherwydd does dim mwy na hanner dwsin o dai a ffermydd yno, ond mae ganddo le diddorol ym mytholeg Cymru. Ym Math fab Mathonwy, pedwaredd gainc y Mabinogi, lleolir llys Pryderi mab Pwyll Pendefig Dyfed yn Rhuddlan Teifi. Yn y chwedl, mae Pryderi yn arglwydd ar saith cantref Morgannwg yn ogystal â Dyfed, Ceredigion ac Ystrad Tywi. Daw Gwydion ap Dôn i lawr o Wynedd i'w lys yn Rhuddlan Teifi yn rhith bardd i geisio'r moch hud a lledrith a gafodd Pryderi gan Arawn, brenin Annwfn. Mae Gwydion yn rhithio ceffylau, milgwn a thariannau, ac yn eu cyfnewid am y moch. Y diwrnod wedyn, mae'r ceffylau, milgwn a thariannau hynny yn diflannu. Mae hyn yn arwain at ryfel rhwng Dyfed a Gwynedd, sy'n diweddu gyda ymladdfa rhwng Pryderi a Gwydion yn y gogledd. Lleddir Pryderi, a chaiff ei gladdu ym Maentwrog.
Mae hi bron yn sicr mai Rhuddlan (Teifi) yw'r lle. Yma felly, yn ôl traddodiad, yr oedd llys teyrnas Dyfed ar un adeg.
Cyfeiriadau
golygu- Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny), nodyn tud. 257.