Rhun ap Maelgwn Gwynedd
Roedd Rhun ap Maelgwn Gwynedd (492? - 582?), a adnabyddir hefyd fel Rhun Hir, yn frenin Gwynedd o 547 hyd ei farwolaeth.
Rhun ap Maelgwn Gwynedd | |
---|---|
Ganwyd | 492 |
Bu farw | 582 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Gwynedd, Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Blodeuodd | 550 |
Tad | Maelgwn Gwynedd |
Plant | Beli ap Rhun |
Hanes
golyguDaeth Rhun yn frenin Gwynedd pan fu farw ei dad, Maelgwn Gwynedd, o'r pla a elwir 'Y Fad Felen' yn 547 (neu efallai 549). Nid oes llawer o wybodaeth ar gael amdano, heblaw yn llawysgrifau fersiwn Gwynedd o Gyfraith Hywel Dda. Yn ôl yr hanes yma yr oedd Elidyr Llydanwyn, brenin Rheged yn yr Hen Ogledd, yn briod â chwaer Rhun. Hawliodd Elidir orsedd Gwynedd, ond pan ymwelodd a'r deyrnas lladdwyd ef gan wŷr Arfon yn Aber Meweddus, ger Clynnog. I ddial ei farwolaeth, ymosodwyd ar Wynedd gan ei ddau gefnder, Rhydderch Hael o Ystrad Clud a Clydno Eiddin. Dywedir i'w byddin hwy ddiffeithio Arfon, ac i ddial am hyn arweiniodd Rhun fyddin i'r Hen Ogledd cyn belled ag Afon Forth.
Cysylltir Rhun â'r gaer Rufeinig Caerhun yn Nyffryn Conwy. Pan fu farw dilynwyd ef gan ei fab Beli.
Traddodiadau
golyguRoedd Rhun, fel yr awgryma ei lysenw "Rhun Hir" yn ddyn mawr o gorffolaeth, ac ystyried ef y pennaf o'r brenhinoedd Cymreig cyfoes. Mae cyfeiriad ato yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy. Yn y chwedl yma mae'r Brenin Arthur a'i gynghorwyr wedi derbyn cais gan eu gelyn Osla am gadoediad o chwech wythnos. Mae Arthur yn trafod hyn gyda'i gynghorwyr, yna maent i gyd yn mynd at ddyn mawr, tal sy'n eistedd ar wahân. Mae Rhonabwy yn holi'r rheswm am hyn, a dywedir wrtho mai Rhun ap Maelgwn Gwynedd ydyw, a bod yn rhaid i bawb ddod i geisio ei gyngor ef yn hytrach na bod ef yn mynd at eraill. Yn ôl un o'r Trioedd Cymreig yr oedd Rhun mor fawr nes bod rhaid cael offer arbennig i'w gael ar gefn ceffyl.
Cyfeiriadau
golygu- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).
- J.E. Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
O'i flaen : Maelgwn Gwynedd |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Beli ap Rhun |