Coluddyn bach
Mewn anatomeg rhan o'r bibell faeth (neu'r 'alimentary canal') ydy'r coluddyn bach, un o'r coluddion. Mewn bodau dynol ceir tair rhan i'r coluddyn bach: y dwodenwm: y coluddyn gwag (neu'r 'jejunum') a'r iliwm. Mewn bodau dynol dyma lle mae'r rhan fwyaf o'r bwyd yn cael ei dreulio. Mewn oedolion, mae ei hyd oddeutu 7 metr:
- y dwodenwm: 26 cm
- y coluddyn gwag: 2.5 metr
- Iliwm: 3.5 metr
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | math o organ, dosbarth o endid anatomegol ![]() |
Math | endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | system dreulio, coluddion ![]() |
Cysylltir gyda | stumog, coluddyn mawr, rectwm ![]() |
Yn cynnwys | dwodenwm, jejunwm, ilëwm ![]() |
![]() |

1: Y geg 2: Taflod 3: Gwacter 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Is-fantol 8: Is-dafod 9: Parotid 10: Isfantol 11: Oesoffagws (y llwnc) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Dwythell y bustl 15: Stumog | 16: Pancreas 17: Pibell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag 21: Ilëwm 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon traws 25: Colon esgynnol 26: Caecwm 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rectwm 30: Anws |
Mae'n llawer hirach na'r coluddyn mawr, ond gelwir ef yn goluddyn bach oherwydd bod ei ddiamedr yn llai.