Pupur du
Pupur du | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Magnoliidau |
Urdd: | Piperales |
Teulu: | Piperaceae |
Genws: | Piper |
Rhywogaeth: | P. nigrum |
Enw deuenwol | |
Piper nigrum L. |
Planhigyn blodeuol ydy pupur du (Lladin: Piper nigrum, Saesneg: black pepper) yn nheulu'r Piperaceae, ac sy'n cael ei dyfu a'i gynaeafu er mwyn ei ffrwyth. Fel arfer, caiff ei sychu a'i ddefnyddio fel sbeis i roi blas da ar fwyd. Pan fo'r ffrwyth wedi ei sychu, gelwir ef yn gornpupur (peppercorn) oddeutu 5 mm o ran hyd ac o liw coch tywyll pan fo'n aeddfed.
Mae'r ffrwythau hyn yn cael eu rhoi drwy felin bupur er mwyn creu llwch ar gyfer y gegin, neu'n uniongyrchol i'r cwsmer eu malu ar ffurf 'peppercorns' sy'n cynnwys un hedyn. Maent o liwiau amrywiol, a cheir: pupur gwyn, pupur coch, pupur pinc a phupur gwyrdd. Y term arferol amdanynt ydy pupur.
O Dde India y dônt yn wreiddiol; (Tamil: milagu, மிளகு; Kannada: meNasu, ಮೆಣಸು; Malayalam: kurumulaku, കുരുമുളക്; Telugu: miriyam, మిరియం; Konkani: miriya konu;) ac mae'n cael ei dyfu ymhobman yno, a mannau trofannol eraill. Caiff ei dyfu hefyd yn ardal Coorg o Karnataka.
Mae blawd sych y pupur du yn un o brif sbeisys coginio Ewropeaidd, bellach, oherwydd cryfder ei flas ac oherwydd y rhinweddau meddygol sydd ynddo oherwydd y cemegolyn "piperine". Yn aml, fe gynigir i'r bwytawr, wrth ochr y cynhwysyn pupur lestr arall yn dal halen.
Yn draddodiadol yng Nghymru, defnyddir pupur i wella: ffliw, llosg eira, tyndra'r cyhyrau (cramp) a chylchrediad y gwaed.
Rhinweddau meddygol
golyguFe ddaw'r meddyginiaethau cynharaf sy'n cynnwys pupur o Ayurveda, Siddha a meddygaeth Unanio India. Yn y 5g sgwennwyd llyfr yn Persia yn dwyn y teitl, "Llyfr Syriac o Feddyginiaethau", a oedd yn cynnwys: rhwymedd, dolur rhydd, pigyn clust, gangrin, afiechyd ar y galon, torri'r lleng-gig, diffyg traul, pigiadau pryfaid, diffyg cwsg, cymalau ystyfnig, problemau'r afu, y ddannodd ayb.
Does yr un o'r rhain wedi ei brofi, ond ceir tystiolaeth fod piperine yn cynyddu'r raddfa yr amsugnir y canlynol i'r corff: seleniwm, fitamin B a beta-carotene yn ogystal â mwynau eraill.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gweler "Handbook of Alternative Cash Crops" gan James A. Duke; cyhoeddwyd gan CRC Press; dyddiad: 1993-08-16; isbn=0849336201; tudalen 395