Rhwymedigaeth wleidyddol

Yn athroniaeth wleidyddol, dyletswydd y dinesydd i'r wladwriaeth, sydd yn gosod sail i hawl y wladwriaeth i lywodraethu, yw rhwymedigaeth wleidyddol. Mewn ystyr ehangach, gall olygu y rhwymedigaeth sydd gan grwpiau cymdeithasol yn ogystal ag unigolion at ei gilydd, a'r cytundeb neu gyfamod cymdeithasol hwn sydd yn galluogi ac yn cyfiawnhau grymoedd gwleidyddol y wladwriaeth a'i monopoli ar ddefnydd cyfreithlon grym. Yn nhraddodiad gwleidyddol y Gorllewin, rhwymedigaethau a dyletswyddau'r unigolyn sydd ar ochr arall y fantol i ryddid yr unigolyn a'i hawliau sifil a gwleidyddol.

Mae seiliau rhwymedigaeth yr unigolyn i ufuddhau i'r wladwriaeth a'i pharchu yn ganolbwynt i ddamcaniaethwyr y cyfamod neu'r contract cymdeithasol yn yr 17g, megis Thomas Hobbes (1588–1679) a John Locke (1632–1704). Dadleuasant bod y wladwriaeth yn tarddu o gytundeb gwirfoddol gan ei ddinasyddion neu ddeiliaid i gydnabod y grym goruchaf, y sofran, yn gyfreithlon. Lluniodd Hobbes gysyniad a elwir "y cyflwr naturiol", sef cymdeithas heb awdurdod gwleidyddol na chyfraith ffurfiol, ac felly yn ansefydlog. Mae'r bobl yn cytuno i fyw dan dra-arglwyddiaeth oherwydd y sofran yn unig sydd â'r gallu i ddiogelu'r boblogaeth a'i hamddiffyn rhag amodau byw creulon a bygythiadau o'r tu mewn a'r tu fas.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Andrew Heywood, Politics, 3ydd argraffiad (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2007), t. 93.

Darllen pellach

golygu
  • R. Flathman, Political Obligation (Efrog Newydd: Atheneum, 1972).
  • T. H. Green, Lectures on the Principles of Political Obligation (Llundain: Longmans, 1882).
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.