John Locke
Athronydd gwleidyddol o Loegr oedd John Locke (29 Awst 1632 – 28 Hydref 1704). Bu fyw drwy'r Pla Du a than mawr Llundain; dyma gyfnod o arbrofi yn y system lled-ddemocrataidd frenhinol a seneddol yn Lloegr. Y prif themâu a drafodir yn ei weithiau ydy cymdeithas, hawliau ac eiddo. Roedd llawer o'i syniadau wedi bod yn ddylanwad cryf ar gyfraith yr Unol Daleithiau; roedd yn amddiffyn coloneiddio.
John Locke | |
---|---|
Portread o John Locke (1697) gan Godfrey Kneller (1646–1723) | |
Ganwyd | 29 Awst 1632 (yn y Calendr Iwliaidd) Wrington |
Bu farw | 28 Hydref 1704 (yn y Calendr Iwliaidd) High Laver |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, gwleidydd, meddyg, llenor, gwyddonydd, athronydd y gyfraith |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | An Essay Concerning Human Understanding, Two Treatises of Government, A Letter Concerning Toleration, Some Thoughts Concerning Education, Of the Conduct of the Understanding, The prince and the cobbler |
Prif ddylanwad | Thomas Hobbes, René Descartes, Hugo Grotius, Robert Filmer, Samuel von Pufendorf, Thomas Sydenham, Anthony Ashley Cooper, Damaris Cudworth Masham |
Mudiad | Empiriaeth |
Tad | John Locke |
Mam | Agnes Keene |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |
Syniadau Locke
golyguHawliau
golyguCred Locke fod yna hawliau naturiol mewn grym; cred fod y cyfreithiau naturiol yma yn deillio gan Dduw. Noda fod pawb yn eiddo i Dduw a phawb a'r gallu i resymu. Felly gan ein bod ni gyd yn hafal (h.y. yn eiddo i Dduw) ac ein bod ni'n medru rhesymu noda Locke os ydym ni'n mwynhau yr hawliau naturiol fe ddylem ni barchu fod eraill eisiau'r run hawliau hefyd. Noda fod hawl gan ddyn amddiffyn ei hun a chosbi pobl sy'n torri'r cyfreithiau/hawliau naturiol
Awdurdod
golyguMae Locke yn nodi fod ei ymdriniaeth ef yn wahanol i un Hobbes, ef sy'n trafod dyn yn y cyflwr naturiol tra bod Hobbes yn ei drafod mewn cyflwr o ryfel. Gwahaniaeth arall rhwng Lock a Hobbes ydy fod Locke yn credu fod hawl gwrthwynebu'r awdurdod. Cred Hobbes fod yr awdurdod yn absoliwt sofran, dim modd ei wrthwynebu. Ond cred Locke fod hawl ei wrthwynebu os yw'n methu yn ei dasg o warchod hawliau naturiol pobl.
Eiddo
golyguCredu fod y byd a'i ffrwythau i bawb yn gyffredin; ond mae rhoi gwaith mewn i rywbeth yn ei wneud yn eiddo i chi. E.e. dwr yn y ffynnon yn eiddo i bawb - dwr wedi ei godi o'r ffynnon yn eiddo i'r dyn a'i gododd o’r ffynnon. Defnyddia Locke y theori yma yn ei amddiffyniad o goloneiddio. Er fod y tir yn eiddo i bawb, gan gynnwys y brodorion; oherwydd mae llafur a thechnoleg y gorllewinwyr sydd wedi cloddio am y mwynau ayyb.. Y gorllewinwyr sydd yn berchen ar yr eiddo oherwydd nhw gwnaeth y llafur.
Llyfryddiaeth
golyguPrif weithiau
golygu- (1689) A Letter Concerning Toleration
- (1690) A Second Letter Concerning Toleration
- (1692) A Third Letter for Toleration
- (1689) Two Treatises of Government
- (1689) An Essay Concerning Human Understanding
- (1693) Some Thoughts Concerning Education
- (1695) The Reasonableness of Christianity, as Delivered in the Scriptures
- (1695) A Vindication of the Reasonableness of Christianity
Gwaith na chyhoeddwyd yn ystod ei oes
golygu- (1660) First Tract on Government (neu yr English Tract)
- (c.1662) Second Tract on Government (neu y Latin Tract)
- (1664) Questions Concerning the Law of Nature (Testun Lladin, gyda chyfieithiad Saesneg yn, Robert Horwitz et. al. (gol.), John Locke, Questions Concerning the Law of Nature, Ithaca: Cornell University Press, 1990).
- (1667) Essay Concerning Toleration
- (1706) Of the Conduct of the Understanding
- (1707) A Paraphrase and Notes on the Epistles of St. Paul
Cyfeiriadau
golyguDarllen pellach
golygu- Alan P. F. Sell, John Locke and the Eighteenth-Century Divines (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997).