Rhwymedigaethau Alldiriogaethol

Mae Rhwymedigaethau Alldiriogaethol (ETOs) yn rwymedigaethau mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd (omissions) gwladwriaeth, o fewn ei thiriogaeth neu y tu hwnt iddi, sy'n effeithio ar hawliau dynol y tu allan i diriogaeth y wladwriaeth honno.[1][2]

Rhwymedigaethau Alldiriogaethol
Mathrhwymedigaeth Edit this on Wikidata

Y cysyniad golygu

Mae hawliau dynol yn hawliau cyffredinol. Pan fydd gwladwriaeth yn cyfyngu ar ei hawliau dynol (hynny yw, ar rwymedigaethau yr hawliau dynol) i fod yn gymwys o fewn ei ffiniau ei hun yn unig, gall arwain at fylchau o ran amddiffyn hawliau dynol mewn prosesau gwleidyddol rhyngwladol. Mae Rhwymedigaethau Alltiriogaethol (ETOs) yn ddolen goll yn y system diogelu hawliau dynol cyffredinol.[2]

Yn 2011 y saerniwyd manylion yr ETOs yn Egwyddorion Maastricht ar Rwymedigaethau Alldiriogaethol Gwladwriaethau ym maes Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (Egwyddorion Maastricht).[2] Mabwysiadwyd Egwyddorion Maastricht gan arbenigwyr cyfraith ryngwladol a hawliau dynol o wahanol wledydd y byd.[3]

Mae Egwyddorion Maastricht yn ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau barchu hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pobl o fewn eu tiriogaethau a'r tu allan i'w tiriogaeth. Yn ôl yr egwyddorion, rhaid i wladwriaethau ymatal rhag ymddygiad sy'n dirymu neu'n amharu ar fwynhad ac ymarfer hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol personau y tu allan i'w tiriogaethau.[2]

Mae Egwyddorion Maastricht yn pennu ymhellach bod yn rhaid i wladwriaethau ymatal rhag unrhyw ymddygiad sy'n

a) amharu ar allu gwladwriaeth neu sefydliad rhyngwladol arall i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau hawliau dynol, a

b) cynorthwyo, cyfarwyddo, rheoli neu orfodi gwladwriaeth neu sefydliad rhyngwladol arall i torri eu rhwymedigaethau hawliau dynol.[2]

Sail gyfreithiol golygu

Nid yw Egwyddorion Maastricht yn sefydlu elfennau newydd o gyfraith hawliau dynol, ond maent yn egluro rhwymedigaethau alldiriogaethol gwladwriaethau ar sail y gyfraith ryngwladol bresennol.[2] Nid yw'r egwyddorion yn gyfreithiol rwymol, ond maent yn fynegiant o farn arbenigol ynghylch statws rhwymedigaethau hawliau dynol alldiriogaethol mewn cyfraith ryngwladol. [1]

Mae'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a ddiffinnir gan y Cenhedloedd Unedig, i fod yn berthnasol i bob person waeth beth fo statws gwleidyddol, awdurdodaethol neu ryngwladol y wlad neu'r diriogaeth y mae't person yn perthyn iddi.[4]

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn mynnu bod yn rhaid i bob gwladwriaeth weithredu, ar wahân, ac ar y cyd trwy gydweithrediad rhyngwladol, i barchu hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pobl o fewn eu tiriogaethau ac yn alldiriogaethol. Mae gwladwriaethau hefyd i ymatal rhag ymddygiad sy'n amharu ar fwynhad hawliau o'r fath sydd gan bersonau y tu allan i'w tiriogaethau hi ei hun.[2]

Yn 2007, sefydlwyd Consortiwm Rhwymedigaethau Alltiriogaethol (ETO) yn Heidelberg, yr Almaen. Mae'n rhwydwaith byd-eang o dros 140 o sefydliadau ac academyddion sy'n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o rwymedigaethau alldiriogaethol gwladwriaethau.[3]

Enghreifftiau golygu

Newid hinsawdd golygu

Mae newid hinsawdd yn amlygu'r angen am amddiffyniad effeithiol i hawliau dynol, y mae'n rhaid iddo fod ar gael i unigolion a chymunedau pan fyddant yn wynebu problemau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd neu ecolegol nad ydynt wedi'u cyfyngu gan ffiniau gwleidyddol gwladwriaethau.[5]

Mae newid hinsawdd yn cael effaith andwyol ar boblogaethau, ac mae eu dadleoli'n lluosi'r effaith ar ei ganfed a hynny'n andwyol iawn i blant yn Affrica. Mae ymddygiad alltiriogaethol gan wladwriaethau neu sefydliadau rhyngwladol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd wedi codi llu o gwestiynau ac yn yr adroddiad gan Swyddfa'r Uchel Gomisiynydd dros Hawliau Dynol cysylltir newid hinsawdd a'r mwynhad (neu ei ddiffyg) o hawliau'r plentyn o dan y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn, gan amlygu pwysigrwydd mesurau megis awdurdodaeth alldiriogaethol extraterritorial jurisdiction.[6]

Bachu tir golygu

Mae bachu tir yn yr 21g ar y cyfan yn cyfeirio y digwyddiadau yn dilyn argyfwng prisiau bwyd y byd 2007-08, a ysgogodd ofnau diogelwch bwyd mewn rhannau o'r byd.[7] Mae'r drafodaeth ynghylch gwella tryloywder mewn caffael tir ar raddfa fawr yn cynnwys mynd i'r afael â rhwymedigaethau alldiriogaethol gwladwriaethau dros fentrau busnes rhyngwladol.[8]

Gwrthdaro milwrol golygu

Er y gall gwladwriaethau yn y gorffennol fod wedi herio unrhyw rwymedigaethau alldiriogaethol ar sail cyfraith ryngwladol,[9] mae rhwymedigaethau o'r fath, yn enwedig ar gyfer atal hil-laddiad ac erchyllterau erail, yn codi fwyfwy mewn achosion cyfreithiol rhyngwladol.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "The Routledge Handbook on Extraterritorial Human Rights Obligations". Routledge (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mai 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 "Maastricht Principles on Extraterritorial Obligations of States in the Area of Economic, Social and Cultural Rights". ETO Consortium (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-06. Cyrchwyd 6 Mai 2022.
  3. 3.0 3.1 "The ETO Consortium". ETO Consortium. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-31. Cyrchwyd 6 May 2022.
  4. "Universal Declaration of Human Rights". United Nations. Cyrchwyd 6 May 2022.
  5. Türkelli, G.E., Gibney, M., Vandenhole, W., Krajewski, M. (2022). Conclusions - The future of extraterritorial human rights obligations. In: Türkelli, G.E., Gibney, M., Vandenhole, W., Krajewski, M. (Eds.)The Routledge Handbook on Extraterritorial Human Rights Obligations. Routledge, New York. DOI:10.4324/9781003090014.
  6. Jegede, A.O. (2022). Climate change displacement and socio-economic rights of the child under the African human rights system - The relevance of ETOs. In: Türkelli, G.E., Gibney, M., Vandenhole, W., Krajewski, M. (Eds.)The Routledge Handbook on Extraterritorial Human Rights Obligation. Routledge, New York. DOI:10.4324/9781003090014.
  7. Borras Jr., Saturnino M.; Ruth Hall; Ian Scoones; Ben White; Wendy Wolford (24 March 2011). "Towards a better understanding of global land grabbing: an editorial introduction". Journal of Peasant Studies 38 (2): 209. doi:10.1080/03066150.2011.559005. http://opendocs.ids.ac.uk/opendocs/handle/123456789/3850.
  8. Walton, O. (2013), Laws and Regulations Concerning Reporting of Foreign Investment in Land, Birmingham, UK: Governance and Social Development Resource Centre, University of Birmingham.
  9. Gibney, M. (2022). The historical development of extraterritorial obligations.In: Türkelli, G.E., Gibney, M., Vandenhole, W., Krajewski, M. (Eds.)The Routledge Handbook on Extraterritorial Human Rights Obligation. Routledge, New York. DOI:10.4324/9781003090014.
  10. "Questioning the Coherence of an Extraterritorial Legal Obligation to Prevent Genocide and Crimes Against Humanity". OpinioJuris. Cyrchwyd 6 May 2022.

Dolenni allanol golygu