Rhyfel Cyntaf Tsietsnia
Gwrthdaro rhwng Ffederasiwn Rwsia a Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria o Ragfyr 1994 hyd Awst 1996 oedd Rhyfel Cyntaf Tsietsnia.
Rhyfel Cyntaf Tsietsnia | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Hofrenydd Rwsiaidd a saethwyd lawr gan frwydrwyr Tsietsniaidd ger y brifddinas Grozny ym 1994 | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Ffederasiwn Rwsia Cyngor Dros Dro Tsietsnia |
Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Boris Yeltsin Pavel Grachev Anatoly Kulikov Konstantin Pulikovsky Anatoliy Romanov Anatoly Shkirko Vyacheslav Tikhomirov Gennady Troshev |
Dzhokhar Dudayev Aslan Maskhadov Ibn al-Khattab Shamil Basayev | ||||||
Nerth | |||||||
38,000 (Rhagfyr 1994) 70,500 (Chwefror 1995) |
Amcangyfrif Rwsiaidd o ryw 15,000 o filwyr a 15,000 i ryfelwyr afreolaidd[1] | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
Milwrol: 5,732 yn farw neu ar goll (cyfrif swyddogol) Sifiliaid: Hyd at 100,000 o Rwsiaid ethnig yn y ddwy ryfel (amcangyfrif swyddogion Tsietsniaidd yn 2005)[2][3] O leiaf 161 wedi'u lladd y tu allan i Dsietsnia[4] |
Milwrol: 17,391 yn farw neu ar goll Sifiliaid: Hyd at 30,000–40,000 o Dsietsniaid yn y ddwy ryfel (amcangyfrif swyddogion Tsietsniaidd yn 2005)[2][3] |
Cafodd y Blaid Gomiwnyddol yng Ngweriniaeth Tsietsnia ei dymchwel gan fudiad poblyddaidd Dzhokar Dudayev a ddatganodd annibyniaeth oddi ar Ffederasiwn Rwsia ar 1 Tachwedd 1991. Wnaeth lluoedd arfog Rwsiaidd yn y weriniaeth ffoi yn raddol, gan alluogi gwrthryfelwyr Tsietsniaidd i anrheithio'r arfdai milwrol ffederal a chael gafael ar arfau.
Ar gychwyn y gwrthdaro, ffafriodd Arlywydd Ffederasiwn Rwsia, Boris Yeltsin, ymgyrch baner ffug ar ffurf gwrthryfel mewnol gyda chefnogaeth gudd y Wasanaeth Diogelwch Ffederal (FSB). Credodd na fyddai rhyfel rhwng claniau ym ymddangos yn annisgwyl yng nghymdeithas lwythol Tsietsnia.[5] Ar 5 Rhagfyr 1994, cydnabodd Yeltsin rhan Rwsia yn ymosodiadau gan filisia Ruslan Khasbulatov ar faes awyr a phalas arlywyddol y brifddinas Grozny ar 25 Tachwedd.[6] Anfonodd lluoedd Rwsiaidd i Tsietsnia fel rhan o Ymgyrch y Don yn Rhagfyr 1994 ac Ionawr 1995 gan lwyddio i gipio'r brifddinas ym Mrwydr Grozny, a thros yr ugain mis nesaf buont yn brwydro rhyfelwyr gerila yn ardaloedd mynyddig y weriniaeth.
Methodd Yeltsin i ragweld maint a brwdfrydedd y gwrthsafiad Tsietsniaidd, undod y Tsietsniaid, er gwaethaf eu gwahaniaethau llwythol, yn erbyn Rwsia, a'r tueddiad hanesyddol o fethiant ymgyrchoedd milwrol yn ystod gaeaf y Cawcasws.[7] Wrth i'r rhyfel fynd yn fwyfwy amhoblogaidd ymhlith cyhoedd Rwsia, datganodd Yeltsin gadoediad cyn etholiad arlywyddol 1996 ac arwyddwyd cytundeb ar 31 Awst 1996 i ddod â therfyn i'r rhyfel. Ni ddatrysodd y cytundeb yr anghydfod dros statws cyfansoddiadol Tsietsnia, a dechreuodd Ail Ryfel Tsietsnia ym 1999.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Rwseg) Броня горела, как дрова... - Публицистика - Православное воинство - Русское Воскресение; ?>
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Chechen official puts death toll for 2 wars at up to 160,000. The New York Times (16 Awst 2005).
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Civil and military casualties of the wars in Chechnya Russian-Chechen Friendship Society
- ↑ 120 yn argyfwng gwystlon ysbyty Budyonnovsk, a 41 yn argyfwng gwystlon Kizlyar-Pervomayskoye.
- ↑ O'Ballance (1997), tt. 175–6.
- ↑ O'Ballance (1997), tt. 176–7.
- ↑ O'Ballance (1997), t. 179.
Ffynonellau
golygu- O'Ballance, E. (1997) Wars in the Caucasus, 1990–1995. Basingstoke: Palgrave Macmillan.