Rhyfel Libanus 2006
Gwrthdaro milwrol yn Libanus a gogledd Israel oedd Rhyfel Libanus 2006, a elwir hefyd yn Rhyfel Gorffennaf[18] yn Libanus ac Ail Ryfel Libanus[19] yn Israel. Mae'n rhan o frwydr ehangach rhwng yr Israeliaid a'i chymdogion, sef yr hyn a elwir yn wrthdaro Israel-Libanus sydd yntau'n rhan o wrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Y brif frwydrwyr oedd lluoedd parafilwrol Hizballah a lluoedd arfog Israel. Dechreuodd y gwrthdaro ar 12 Gorffennaf 2006, a pharhaodd hyd at gadoediad gan y Cenhedloedd Unedig ar 14 Awst 2006, er iddo ddod i ben yn ffurfiol ar 8 Medi pan gododd Israel ei blocâd llyngesol ar Libanus.
Rhyfel Libanus 2006 | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o'r gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd a'r gwrthdaro Israelaidd-Libanaidd | |||||||
Mwg dros Tyre yn dilyn cyrch Israelaidd | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Hizballah Amal[1] PGL[2] FfPRhP-AC[3] |
Israel | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Hassan Nasrallah |
Dan Halutz Moshe Kaplinsky[4] Udi Adam | ||||||
Nerth | |||||||
600-1000 o frwydrwyr gweithredol 3000-10 000 o filwyr wrth gefn[5] |
Hyd at 10 000 o luoedd tirol. 30 000 yn y dyddiau olaf. (+ Awyrlu Israel & Chorfflu Morol Israel)[6][7] | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
Milisia Hizballah: Marw: |
Lluoedd Amddiffyn Israel: Marw: 119[13] | ||||||
Dinasyddion Libanaidd: 850[14]-1191[15] wedi marw 4409 wedi'u hanafu[15] Dinasyddion Israelaidd: |
Dechreuodd y gwrthdaro ar ôl i Hizballah saethu rocedi Katyusha a morterau tuag at bentrefi Israelaidd ar y goror rhwng Israel a Libanus,[20] i ddargyfeirio sylw o uned Hizballah arall a gipiodd dau filwr Israelaidd, a lladd tri arall. Dywedodd Hizballah iddynt gipio'r milwyr y tu fewn i Libanus. Ceisiodd lluoedd Israel achub y milwyr ond roeddent yn aflwyddiannus, a chollant bump arall yn yr ymgais. Anafwyd pum milwr a phum sifiliad arall yn yr ymosodiadau. Ymatebodd Israel gyda chyrchoedd awyr a thân arfau trwm ar dargedau yn Libanus, a difrodwyd adeiladau Libanaidd gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Rafik Hariri a ddefnyddiodd Hizballah i fewnfudo arfau yn ôl awdurdodau Israel, cafwyd blocâd awyr a llyngesol,[21] a goresgynnwyd tir de Libanus. Yna lawnsiodd Hizballah mwy o rocedi i ogledd Israel a buont yn rhyfela'n herwfilwrol yn erbyn Lluoedd Amddiffyn Israel.[22][23]
Cyfri cyrff
golyguLladdwyd 44 o sifiliaid Israel a 1,191 o sifiliaid Libanus. Lladdwyd 121 o filwyr Israel a hyd at 700 o filwyr Hizbolah.[24]
Bu'r gwrthdaro yn gyfrifol am ddifrodi adeiladau Libanaidd yn ddifrifol, dadleolwyd 700 000-915 000 o Libaniaid,[25][26][27] a 300 000-500 000 o Israeliaid,[28][29][30] ac aflonyddu bywyd pob dydd ar draws Libanus a gogledd Israel. Hyd yn oed ar ôl y cadoediad, parhaodd llawer o Dde Libanus i fod yn annrhigiadwy oherwydd peryg bomiau clwstwr Israelaidd a oedd heb ffrwydro. Ar 1 Rhagfyr 2006, amcangyfrifwyd fod 200 000 o Libaniaid yn dal wedi'u dadleoli'n fewnol neu'n ffoaduriaid.[31]
Y Cenhedloedd Unedig yn galw am gadoediad
golyguAr 11 Awst 2006, cytunwyd ar Benderfyniad 1701 y CU (sef cadoediad) yn unfrydol gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig fel ymgais i derfynu'r gwrthdaro. Bu'r penderfyniad, a gytunwyd arno gan lywodraethau Libanus ac Israel yn y diwrnodau dilynol, yn galw ar ddiarfogi Hizballah, encilio Israel o Libanus, ac i filwyr Libanus a llu dros dro y Cenhedloedd Unedig yn Libanus (UNIFIL) mwy o faint gael ei leoli yn ne Libanus. Dechreuodd byddin Libanus leoli milwyr yn ne Libanus ar 17 Awst 2006. Codwyd y blocâd ar 8 Medi 2006.[32] Ar 1 Hydref, 2006, enciliodd y mwyafrif o luoedd Israel o Libanus, er y bu i gynffon y fyddin barhau i feddiannu goror-bentref Ghajar[33] tan 3 Rhagfyr 2006.[34] Yn ystod yr amser ers cyflawniad Penderfyniad 1701 dywed llywodraeth Libanus a'r UNIFIL ni fyddent yn diarfogi Hizballah.[35][36][37]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Timeline of the July War 2006. The Daily Star. Adalwyd ar 25 Awst, 2007.
- ↑ Herbert Docena (17 Awst, 2006). Amid the bombs, unity is forged. Asia Times Online. "The LCP...has itself been very close to Hezbollah and fought alongside it in the frontlines in the south. According to Hadadeh, at least 12 LCP members and supporters died in the fighting."
- ↑ Associated Press (6 Awst, 2006). PFLP claims losses in IDF strike on Lebanon base. The Jerusalem Post.
- ↑ "Two Northern Command chiefs?", Ynetnews, 8 Awst 2006; Gweler hefyd, "IDF officials: Maj. Gen. Adam must quit post after war"; "Israel swaps commanders"; "Impatient Israel appoints new battle chief"[dolen farw]; "New Israeli General Oversees Lebanon "; "Israel names new commander to head offensive" Archifwyd 2007-09-30 yn y Peiriant Wayback; "Israel changes command structure"[dolen farw]
- ↑ "International Institute for Strategic Studies". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-12-13. Cyrchwyd 2007-08-26.
- ↑ http://www.usatoday.com/news/world/2006-08-01-mideast-fighting_x.htm
- ↑ Some 30,000 Israeli troops in Lebanon - army radio. Reuters trwy Yahoo! News Asia (13 Awst, 2006).
- ↑ Associated Press (21 Chwefror, 2007). Army chief says Israel may have to confront Hezbollah attempts to re-arm. International Herald Tribune.
- ↑ Con Coughlin (4 Awst, 2006). Teheran fund pays war compensation to Hizbollah families. Telegraph.co.uk.
- ↑ Patrick Bishop (22 Awst,2006). Peacekeeping force won't disarm Hizbollah. Telegraph.co.uk. ""A UN official estimated the deaths at 500""
- ↑ Lebanon Sees More Than 1,000 War Deaths. AP trwy MyUstinet. ""Israel initially said 800 Hezbollah fighters died but later lowered that estimate to 600.""
- ↑ Wheeler, Carolynne; Mark MacKinnon (16 Awst, 2006). Israel begins pullout as ceasefire holds tud. A13. The Globe and Mail. ""Israeli army officials indicated they have 13 captured Hezbollah fighters.""
- ↑ Gweinyddiaeth Materion Tramor Israel. "Israel-Hizbullah conflict: Victims of rocket attacks and IDF casualties". Retrieved March 9, 2007.
- ↑ Israel (country). Microsoft Encarta Online Encyclopedia 2007.
- ↑ 15.0 15.1 Report of the Commission of Inquiry on Lebanon pursuant to Human Rights Council resolution S-2/1 (23 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 26 Awst, 2007.
- ↑ PM 'says Israel pre-planned war'. BBC (8 Mawrth, 2007). Adalwyd ar 26 Awst, 2007.
- ↑ Hizbullah attacks northern Israel and Israel's response. Gweinyddiaeth Materion Tramor Israel (12 Gorffennaf, 2006).
- ↑ AFP (2006). Timeline of the July War 2006. The Daily Star. Adalwyd ar 15 Medi, 2006.
- ↑ Gweler, e.e., Yaakov Katz, "Halutz officers discuss war strategy," Jerusalem Post, 5 Medi, 2006, tud. 2
- ↑ http://www.ynetnews.com/articles/0,7340,L-3275180,00.html
- ↑ Lebanese Premier Seeks U.S. Help in Lifting Blockade. The Washington Post (24 Awst 2006).
- ↑ Urquhart, Conal (11 Awst, 2006). Computerised weaponry and high morale. The Guardian.
- ↑ "Gweler 'The International Herald Tribune'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-02-23. Cyrchwyd 2007-02-23.
- ↑ "Gweler erthygl yn yr 'International Tribune' ar". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-02-23. Cyrchwyd 2007-02-23.
- ↑ Humanitarian Factsheet on Lebanon. Adran Gwybodaeth Gyhoeddus y Cenhedloedd Unedig (16 Awst, 2006). Adalwyd ar 10 Mawrth, 2007.
- ↑ "Israeli Army Chief Admits Failures", BBC, 24 Awst, 2006.
- ↑ The War on Lebanon. Lebanon United. Adalwyd ar 20 Mawrth, 2007.
- ↑ Hizbullah attacks northern Israel and Israel's response. Gweinyddiaeth Materion Tramor Israel (Awst, 2006). Adalwyd ar 2 Hydref, 2006.
- ↑ Middle East crisis: Facts and Figures. BBC (31 Awst, 2006). Adalwyd ar 20 Mawrth, 2007.
- ↑ "Israel says it will relinquish positions to Lebanese army", USA Today, 15 Awst, 2006.
- ↑ Humanitarian Assistance to Lebanon (3 Tachwedd 2006). Adalwyd ar 17 Tachwedd, 2006.
- ↑ Pannell, Ian (9 Medi 2006). Lebanon breathes after the blockade. BBC. Adalwyd ar 9 Hydref, 2006.
- ↑ UN peacekeepers: Israeli troops still in Lebanon, CNN
- ↑ Israel to quit Lebanon border village -officials. Reuters (3 Rhagfyr). Adalwyd ar 3 Rhagfyr, 2006.
- ↑ Who Will Disarm Hezbollah?. Spiegel Online (16 Awst). Adalwyd ar 10 Ionawr, 2007.
- ↑ Indonesia refuses to help disarm Hezbollah in Lebanon. People's Daily Online (19 Awst). Adalwyd ar 10 Ionawr, 2007.
- ↑ U.N. commander says his troops will not disarm Hezbollah. International Herald Tribune (18 Medi). Adalwyd ar 10 Ionawr, 2007.