Rhyfel Olyniaeth Awstria

Paentiad o Frwydr Fontenoy (1745) gan Pierre L'Enfant.

Cyfres o ryfeloedd rhwng gwledydd Ewrop yn y cyfnod 1740–8 a sbardunwyd gan farwolaeth Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig a phennaeth brenhinllin y Hapsbwrgiaid, oedd Rhyfel Olyniaeth Awstria (Almaeneg: Österreichischer Erbfolgekrieg).

Bu farw'r Ymerawdwr Siarl VI ar 20 Hydref 1740, a chafodd ei olynu yn bennaeth ar y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, hynny yw Awstria a'i thiriogaethau, gan ei ferch Maria Theresa. Gwrthwynebwyd ei hawl i'r goron gan sawl ymhonnwr, yn bennaf Philip V, brenin Sbaen, Awgwstws III, brenin Gwlad Pwyl, a Charles Albert, Etholydd Bafaria. Cefnogwyd hawl Charles Albert i goron yr Ymerodraeth Lân Rufeinig gan Deyrnas Ffrainc, mewn ymgais i lyffetheirio grym y Hapsbwrgiaid yn Ewrop.

Cychwynnodd yr ymladd yn sgil goresgyniad Silesia, un o daleithiau'r Hapsbwrgiaid, gan Deyrnas Prwsia ar 16 Rhagfyr 1740. Bu byddin Ffredrig II, brenin Prwsia, yn drech na lluoedd Awstria ym Mrwydr Mollwitz ar 10 Ebrill 1741, ac yn ôl Cytundeb Berlin (Gorffennaf 1742) ildiodd Maria Theresa diroedd Silesia i Brwsia gan ddod â diwedd i Ryfel Cyntaf Silesia. Wedi i'r Prwsiaid heidio dros Silesia, ymochrodd Ffrainc, Etholyddiaeth Bafaria, a Theyrnas Sbaen yn erbyn Awstria, ac yn ddiweddarach ymunodd Prwsia ac Etholyddiaeth Sachsen â'r gynghrair honno. Cipiwyd Prâg gan Charles Albert, gyda chymorth y Ffrancod, yn 1741.

Methodd goresgyniad Awstria a Bohemia gan luoedd Ffrainc a Bafaria, a lansiwyd gwrthgyrch gan Maria Theresa, gyda chymorth Prydain Fawr ac Hwngari, yn 1742 i orchfygu Bafaria. Prif nod y Prydeinwyr wrth ymuno â'r ffrae oedd i atal y Ffrancod rhag ennill tra-arglwyddiaeth dros y cyfandir, a fyddai ar draul diddordebau masnachol a threfedigaethol yr Ymerodraeth Brydeinig. Ymunodd Etholyddiaeth Hannover a'r Hesiaid hefyd ar ochr Awstria, a buont, dan arweiniad Siôr II, brenin Prydain Fawr, yn drech na'r Ffrancod ym Mrwydr Dettingen ar 27 Mehefin 1743. Ymgynghreiriodd Dugiaeth Safwy â'r Awstriaid ym Medi 1743, ac enciliodd lluoedd y Ffrancod yn ôl i ffiniau Teyrnas Ffrainc. Cychwynnodd Ail Ryfel Silesia yn 1744, a methiant fu ymdrechion Awstria i adennill Silesia.

Bu farw Charles Albert yn Ionawr 1745, a gwrthododd ei fab, Maximilian III Joseph, hawlio coron Awstria. Llwyddiant a fu ymgyrch y Ffrancod yn nhiriogaethau Awstriaidd yr Iseldiroedd yn 1745–46. Ymladdwyd rhyfeloedd hefyd rhwng y Ffrancod a'r Prydeinwyr yng Ngogledd America (Rhyfel y Brenin Siôr, 1744–48) a'r India (yr Ail Ryfel Carnatig, 1746–48). Bu hynt y rhyfel yn amhendant nes i'r pwerau wynebu trafferthion ariannol a galw am drafodaethau heddwch. Daeth y gwrthdaro dros olyniaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd i ben yn sgil Cytundeb Aix-la-Chapelle ar 18 Hydref 1748, er i Silesia barhau'n rhan o Brwsia.