Rhyfel Pwnig Cyntaf
Rhyfel rhwng Gweriniaeth Rhufain a Carthago, a ymladdwyd rhwng 264 CC a 241 CC oedd y Rhyfel Pwnig Cyntaf. Hwn oedd y cyntaf o dri rhyfel a elwir y Rhyfeloedd Pwnig. Daw'r enw "Pwnig" o'r term Lladin am y Carthaginiaid, Punici, yn gynharach Poenici, oherwydd eu bod o dras y Ffeniciaid.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel ![]() |
Rhan o | Rhyfeloedd Pwnig ![]() |
Dechreuwyd | 264 CC ![]() |
Daeth i ben | 241 CC ![]() |
Olynwyd gan | Ail Ryfel Pwnig ![]() |
Lleoliad | Y Môr Canoldir ![]() |
Yn cynnwys | Second Battle of Drepana ![]() |
![]() |
Dechreuodd y rhyfel yn Sicilia pan ymosododd Hiero II, unben Siracusa ar y Mamertiaid. Gofynnodd y Mamertiaid yn gofyn am gymorth Carthago, ond wedi atal ymosodiad Sicracusa, gwrethododd y Carthaginiaid adael. Trôdd y Mamertiaid at y Rhufeiniaid am gymorth, a chroesodd y conswl Rhufeinig Appius Claudius Caudex i Sicilia gyda dwy leng, y tro cyntaf i fyddin Rufeinig groesi'r môr. Gorchfygodd Claudius y Carthaginiaid mewn brwydr ger Messina.
Bu llawer o'r brwydro ar ynys Sicilia, a hefyd ymladd ar y môr rhwng y ddwy lynges. Wedi brwydro hir, bu raid i Carthago ofyn am delerau heddwch, a chollodd lawer o diriogaethau.