Rhyfela athreuliol
(Ailgyfeiriad o Rhyfela athreuliad)
Strategaeth filwrol yw rhyfela athreuliol[1] sydd yn defnyddio athreuliad er mwyn ceisio gorchfygu'r gelyn. Mae'r ochr sy'n defnyddio'r strategaeth hon yn brwydro'r ochr arall yn raddol nes iddynt methu o ganlyniad i golledigion parhaol o luoedd ac adnoddau milwrol. Yn ôl damcaniaethwyr milwrol clasurol megis Sun Tzu mae rhyfela athreuliol yn groes i egwyddorion traddodiadol "celfyddyd y cadfridog", sydd yn pwysleisio manwfro, crynhoi lluoedd, cudd-ymosod, twyll ac ati. Er hyn ceir athreuliad trwy gydol hanes rhyfel, yn aml er mwyn niwtralu gelyn sydd â mantais dactegol.
Enghreifftiau
golygu- Strategaeth Ffabaidd Fabius Maximus yn erbyn Hannibal yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig
- Goresgyniad Rwsia gan Ffrainc
- Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf
- Rhyfel Fietnam, yn enwedig strategaeth chwilio a dinistrio
- Y Rhyfel Athreuliol
- Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Afghanistan
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 84 [war of attrition].
Eginyn erthygl sydd uchod am ryfel neu wrthdaro milwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.