Y Rhyfel Athreuliol
Rhyfel cyfyngedig rhwng Israel a'r Aifft o 1967 hyd 1970 oedd y Rhyfel Athreuliol (Arabeg: حرب الاستنزافḤarb al-Istinzāf, Hebraeg: מלחמת ההתשה Milhemet haHatashah). Wedi'r Rhyfel Chwe Diwrnod ym Mehefin 1967, nid oedd unrhyw ymdrechion diplomyddol o ddifrif i ddatrys y gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Ym mis Medi 1967, cytunodd y gwledydd Arabaidd i beidio a chydnabod Israel, drafod â'i llywodraeth, nac i geisio am heddwch â'r wladwriaeth Iddewig. Credodd Gamal Abdel Nasser, Arlywydd yr Aifft, taw dim ond gweithrediad milwrol bydd yn gorfodi Israel i encilio'i holl luoedd rhag Gorynys Sinai, ac ailddechreuodd brwydro ar hyd Gamlas Suez. I ddechrau gwelwyd dim ond brwydrau artileri cyfyngedig a chipgyrchoedd bychain i mewn i Sinai gan yr Eifftiaid, ond erbyn 1969 yr oedd Byddin yr Aifft yn barod i ddwysháu'r rhyfel. Ar 8 Mawrth 1969, datganodd Nasser cychwyn swyddogol y Rhyfel Athreuliol a dechreuodd yr Aifft sielio ar raddfa eang ar hyd y Gamlas yn ogystal â defnyddio rhyfela awyrennol a chyrchoedd comando yn erbyn Israel. Parhaodd y brwydro hyd Awst 1970 a daeth i ben â chadoediad; ni newidiodd ffiniau'r ddwy wladwriaeth.
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 1 Gorffennaf 1967 |
Rhan o | Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd, y Rhyfel Oer, rhyfela athreuliol |
Dechreuwyd | 1 Gorffennaf 1967, Mawrth 1969 |
Daeth i ben | 7 Awst 1970 |
Rhagflaenwyd gan | Rhyfel Chwe Diwrnod |
Olynwyd gan | Rhyfel Yom Kippur |
Lleoliad | Sinai |
Yn cynnwys | Battle of Karameh, War of Attrition in Jordan Valley, Syrian front in the War of Attrition |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |