Rhys Gryg
Rhys Gryg neu Syr Rhys Gryg (bu farw 1234) oedd yr olaf o dywysogion annibynnol teyrnas Deheubarth. Roedd yn bedwerydd fab i'r Arglwydd Rhys. Ei fam oedd Gwenllïan ferch Madog ap Maredudd ac felly roedd yn gefnder i Lywelyn Fawr.
Rhys Gryg | |
---|---|
![]() Beddrod Rhys Gryg yng Ngadeirlan Eglwys Tyddewi | |
Ganwyd |
1160 ![]() Cymru ![]() |
Bu farw |
1234 ![]() |
Dinasyddiaeth |
Cymru ![]() |
Galwedigaeth |
teyrn, pendefig ![]() |
Swydd |
tywysog ![]() |
Tad |
Rhys ap Gruffudd ![]() |
Priod |
Maud de Clare ![]() |
Plant |
Rhys Mechyll, Maredudd ap Rhys Gryg ![]() |
BywgraffiadGolygu
Ochrodd gyda Llywelyn yn erbyn y brenin John o Loegr yn 1216. Ond trodd Llywelyn arno yn 1220 a meddianu rhai o'i diroedd. Dros dro oedd yr anghydfod ac o hynny ymlaen brwydrodd Rhys gyda Llywelyn yn erbyn y Saeson yn y de.
Cafodd ei anafu mewn brwydr gerllaw Caerfyrddin yn 1234. Er gwaethaf triniaeth gan Feddygon Myddfai, bu farw o'i glwyf, ymhen ychydig, yn Llandeilo (efallai yn abaty Llandeilo Fawr).
Canodd y bardd Llywarch ap Llywelyn ('Prydydd y Moch') awdl fawreddog i Rys Gryg (tua 1220 efallai). Canodd y Prydydd Bychan iddo yn ogystal.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Elin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn 'Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1991). Testun 26.
LlyfryddiaethGolygu
Erthygl Rhys Gryg yn y Bywgraffiadur Cymreig