Llandeilo

tref yn Ne Cymru
(Ailgyfeiriad o Llandeilo Fawr)

Tref a chymuned yng nghanol Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llandeilo. Fe'i henwir ar ôl yr hen eglwys i Sant Teilo. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn cael ei hadnabod fel Llandeilo Fawr a gorweddai yng nghwmwd Maenor Deilo, heb fod ymhell o safle Castell Dinefwr, sedd frenhinol tywysogion y Deheubarth. Mae Gorsaf reilffordd Llandeilo ar linell Rheilffordd Calon Cymru.

Llandeilo
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTeilo Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,787 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKonk-Leon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8841°N 3.9992°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000513 Edit this on Wikidata
Cod OSSN625225 Edit this on Wikidata
Cod postSA19 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruAdam Price (Plaid Cymru)
AS/au y DUAnn Davies (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Llandeilo (gwahaniaethu)

Cynrychiolir Llandeilo yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]

Llandeilo dan eira yn y gaeaf

Roedd Llandeilo Fawr yn sedd esgobaeth Gymreig a mynachlog enwog. Mae'n debyg i Lyfr Sant Chad gael ei hysgrifennu yno yn hanner cyntaf yr 8g.

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo ym 1996. Am wybodaeth pellach gweler:

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandeilo (pob oed) (1,795)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandeilo) (851)
  
48.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandeilo) (1289)
  
71.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llandeilo) (355)
  
40.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Atyniadau yn y cylch

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]