Rhys a Meinir
Sioe gerdd wedi'i seilio ar hen chwedl o'r un enw a leolir yn Nant Gwrtheyrn, Gwynedd yw Rhys a Meinir. Sgwennwyd y sgript a geiriau'r caneuon yn y 1987 gan Robin Llwyd ab Owain ac fe'i perfformiwyd gan Gwmni Theatr ardal Rhuthun yn 1987, sef, yn bennaf Côr Ieuenctid Rhuthun, a newidiwyd eu henwau'n ddiweddarach yn Gôr Rhuthun. Cyfansoodwyd y gerddoriaeth gan Robat Arwyn.[1]
Y stori
golyguStori garu sydd yma, gyda diweddglo drasig. Rhoed tair melltith ar Nant Gwrtheyrn yn ôl y chwedl: na phriodir neb, na chleddir neb ac na fydd dyfodol i Nant Gwrtheyrn. Her i'r dynged hon yw thema'r stori, yn enwedig y dynged na phriodir neb. Ar fore eu priodas, yn ôl trefn y cyfnod a'r ardal, aeth Mair i guddio, gyda'r gwas priodas a'i gyfeillion yn chwilio ymhobman amdani. ond ni chafwyd hyd iddi.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, aeth Rhys, yn ei alar, i fochel rhag storm o dan hen dderwen. Holltwyd honno gan fellten a gwelodd, o fewn ceudod y pren ysgerbwd Meinir, yn ei gwisg briodas, wen. Ond, ceir her i'r dynged, ac mae'r sioe hon yn gorffen gydag un o'r caneuon mwyaf poblogaidd: Byw Fyddi Nant Gwrtheyrn', yn her i'r dynged.
Rhai caneuon
golygu- Yfory a'i Gyfaredd - cyhoeddwyd yn y gyfrol O'r Sioe Cyhoeddiadau Curiad.[2][3] Ymddangosodd ar nifer o albymau gan gynnwys Caneuon Robat Arwyn (2015).
- Y Bore Hwn - Cyhoeddwyd yn y gyfrol Wyth Cân, Pedair Sioe; Gwasg y Lolfa (2010); ISBN 9781847712653 (1847712657.[4] Cân serch a genir gan Meinir, fore ei phriodas.
- Dal Hi'n Dynn - Fe'i cyhoeddwyd yn yr un gyfrol a'r uchod; tudalen 37.
- Byw Fyddi Nant Gwrtheyrn - cyhoeddwyd ar albwm Caneuon Robat Arwyn (2015); canwyd gan Aelwyd Bro Gwerfyl .[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ robatarwyn.co.uk; adalwyd 1 Ionawr 2019.
- ↑ www.curiad.co.uk;[dolen farw] Gwefan Curiad); adalwyd 1 Ionawr 2019.
- ↑ www.robatarwyn.co.uk; adalwyd 1 Ionawr 2019.
- ↑ Gwefan gwales.com; adalwyd 1 Ionawr 2019.
- ↑ Cwmni Recordiau Sain; Sain SCD2669; Archifwyd 2016-07-30 yn y Peiriant Wayback adalwyd 1 Ionawr 2019.
Gweler hefyd
golygu- Ceidwad y Gannwyll (1985)
- Iarlles y Ffynnon (1996)
- Pwy bia'r Gân? (2003)
- Rhestr o sioeau cerdd Cymraeg