Iarlles y Ffynnon (sioe gerdd)

Sioe gerdd i bobl ifanc a sgwennwyd gan Robin Llwyd ab Owain yw Iarlles y Ffynnon ac a berfformiwyd yn gyntaf yn Theatr Gwynedd yn 1996 gan blant Ysgol Gynradd Glan Cegin, Maesgeirchen, Bangor. Mae'n addas ar gyfer cynradd ac uwchradd ac roedd yn y sioe wreiddiol 8 cân a sgript lawn. Cyhoeddwyd y caneuon a'r sgript gan Wasg y Lolfa yn 1997. Yn 2019 roedd yn dal mewn print gyda nifer o'r caneuon hefyd ar gael ar albymau sain.[1][2] Comisiynwyd y gwaith gan Gyngor Sir Gwynedd ac mae'r perfformiad yn para awr o hyd.[3]

Iarlles y Ffynnon

Seiliwyd y gwaith ar hen chwedl Arthuraidd Gymraeg o'r Oesoedd Canol o'r un enw, sy'n un o'r Tair Rhamant: Iarlles y Ffynnon, Peredur a Geraint Fab Erbin. Ceir y testun yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest.

Mae'r sioe mewn dwy ran, gyda'r rhan gyntaf yn digwydd o fewn Castell Arthur, y ffynnon a phorth Castell y Marchog Du. Wedi i'r arwr ganfod ei ddarpar gariad, mae'r ail ran yn digeydd yng nghartref yr Iarlles, sef Castell y Marchog Du.

Y stori

golygu

Yn y chwedl mae Owain, cymeriad sy'n seiliedig ar yr arwr Owain fab Urien o'r Hen Ogledd, yn priodi Iarlles y Ffynnon gyda chymorth ei llawforwyn Luned. Ar ôl tair blynedd yn amddiffyn y ffynnon, mae'n cael caniatad yr Iarlles i dreulio tri mis yn llys Arthur. Wedi cyrraedd yno, mae'n anghofio popeth am ei wraig ac yn aros am dair blynedd. Mae ei wraig yn ei ddiarddel ac Owain yn mynd yn wallgof am gyfnod, ond gyda chymorth llew mae wedi ei achub mae'n mynd trwy gyfres o anturiaethau yn llwyddiannus ac yn adennill ei wraig.

Caneuon

golygu
  • Daw'n rhydd
  • Cymer fy Llaw
  • Drwg yn y caws
  • 'Mae na Faw
  • Mae'r Hebog yn ei Gawell
  • Dilyn Fi - dyma gân a genir gan Eluned, meistres yr Iarlles, wrth yr arwr Owain; ymddangosodd y gân hon hefyd yn y llyfryn Wyth Cân, Pedair Sioe. Fe'i chanwyd gan Rhys Meirion ar ei albwm Llefarodd Yr Haul; Recordiau Sain (2013); Sain SCD2684.[4]
  • Cadwn y Ffynnon
  • Pa hawl sydd Gen Ti?

Gan yr un awduron

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan robatarwyn.co.uk; adalwyd 2 Ionawr 2019.
  2. ylolfa.com Archifwyd 2020-10-31 yn y Peiriant Wayback; Gwefan Gwasg y Lolfa; ISBN 9780862434113; adalwyd 2 Ionawr 2019.
  3. Gwefan gwales.com; adalwyd 2 Ionawr 2019.
  4. sainwales.com; Archifwyd 2019-07-04 yn y Peiriant Wayback Gwefan Recordiau Sain; adalwyd 2 Ionawr 2019.