Rhys ap Gruffudd (rebel)
Roedd Rhys ap Gruffudd (1508–1531) yn dirfeddiannwr pwerus o Dde Cymru, yn ŵyr i Rhys ap Thomas. Fe'i cyhuddwyd o frad yn erbyn Harri VIII, brenin Lloegr ac fe'i dienyddiwyd fel rebel. Roedd yn briod ag Arglwyddes Catherine Howard (ganwyd c. 1499 yn Ashwellthorpe, Norfolk, Lloegr), merch Thomas Howard, Ail ddug Norfolk a'i wraig Agnes Tilney.
Rhys ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | c. 1508 |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1531 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Gruffydd ap Rhys ap Thomas |
Mam | Catherine St. John |
Priod | Katharine Howard |
Plant | Gruffudd Rice, Thomas Rice, Agnes Rice |
Y dyddiau cynnar
golyguRoedd Rhys yn ŵyr i Rhys ap Thomas, a wnaed yn rheolwr Cymru gan Harri VII, brenin Lloegr (Harri Tudur cyn Bosworth); ef hefyd a laddodd Rhisiart III, brenin Lloegr, yn ôl Guto'r Glyn a oedd yn bresennol ym Mrwydr Maes Bosworth yn Awst 1485. Bu farw'i dad Gruffydd ap Rhys ap Thomas, yn 1521 a Rhys oedd etifedd cyfoeth a thiroedd ei daid. Priododd Arglwyddes Catherine Howard yn 1524.[1]
Pan farwodd ei dad, trosglwyddodd Harri VIII teitlau taid Rhys, nid i'r etifedd Cymreig, ond i'r Sais Walter Devereux, Lord Ferrers (Walter Devereux, is-iarll cyntaf Hereford), a ddechreuodd blynyddoedd o gynnen a chweryl rhwng Rhys ap Thomas a Walter Devereux.
Cweryl
golyguDaeth y cweryl rhwng Rhys a Ferres i'w anterth ym Mehefin 1529 yn ystod paratoadau'r Llys Mawr yng Nghaerfyrddin pan amgylchynodd Ferres Rhys gyda 40 o'i ddynion. Ac fel llygoden mewn cornel bygthiodd Rhys Ferres gyda'i eiriau a'i gyllell, ac arestiwyd Rhys a'i garcharu yng Nghaestell Caerfyrddin. Gyda channoedd o gyfeillion a chefnogwyr ymosododd gwraig Rhys, Catherine, ar y castell er mwyn rhyddhau ei gŵr. Lladdwyd sawl un o ddynion Ferres yn y cyrch. Parhaodd ymladd ar strydoedd y dre rhwng dynion o'r ddwy ochr am flynyddoedd. Yng ngolwg y Cymry, roedd Rhys wedi cael cam.[2]
Cyhuddiadau
golyguYn 1531 cymerwyd Rhys yn garcharor i Lundain gyda chyhuddiad ei fod yn ceisio dymchwel llywodraeth y Brenin yng Nghymru. Erbyn hyn roedd Rhys wedi ychwanegu'r enw 'Fitz-Urien' yn ei enw, gan gyfeirio at un o frenhinoedd Rheged. Nodwyd yn y cyhuddiad fod hyn yn ymgais gan Rhys i hawlio awdurdod brenhinol dros Gymru, a cham yn ei ymgyrch i ddyrchafu ei hun yn 'Dywysog Cymru'. Nodwyd hefyd fod Rhys yn cynllwynio gyda Iago V, brenin yr Alban i ddisodli Harri.
Dienyddio
golyguDienyddiwyd Rhys yn Rhagfyr 1531 am frad, yn erbyn y gred boblogaidd fod Rhys yn ddieuog o'r cyhuddiad.[2] Ond yn ôl Ellis Gruffudd, cyfoeswr a oedd yn bresennol yn yr Uchel-Lys, bu'r teulu'n drahaus ac yn haerllug dros nifer o flynyddoedd.[3]
Ond yn ôl yr hanesydd Ralph Griffith roedd dienyddiad Rhys yn ddim llai na llofruddiad cyfreithiol (judicial murder). Gan fod Rhys yn gwrthwynebu ymgyrch Harri i dorri'n rhydd o Rufain, myn Ralph y dylid ystyried Rhys fel un o'r merthyron cyntaf. Dibrisiodd yn gyhoeddus Anne Boleyn a bu'n rhy gyfeillgar gyda Catrin o Aragón and Cardinal Wolsey.[4] Wedi'r dienyddiad ofnwyd yn gryf y byddai gwrthryfel yng Nghymru, gyda rhai eglwyswyr yn credu fod cynllwyn ar y gweill rhwng y Gwyddelod a 'r Cymry.[2]
Gweler hefyd
golygu- Y teulu Rice'; gwefan y Llyfrgell Genedlaethol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dictionary of Welsh Biography, National Library of Wales
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Ralph Griffiths, Rhys ap Thomas and his Family, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1993, tt.106, 110–11.
- ↑ Yr hyn a ddywedodd Ellis Gruffudd, yn Saesneg, oedd: "many men regarded his death as Divine retribution for the falsehoods of his ancestors, his grandfather, and great-grandfather, and for their oppressions and wrongs. They had many a deep curse from the poor people who were their neighbours, for depriving them of their homes, lands and riches."; Griffiths, tud.72.
- ↑ A history of Carmarthenshire, Cyfrol 1, gan W. Lewis, 1935, t.263.