Rhyw a'r gyfraith

(Ailgyfeiriad o Rhyw a'r Gyfraith)

Mae'r erthygl hon yn edrych ar sut y mae rhywioldeb ac ymddygiad rhywiol yn cysylltu â'r, ac yn cael ei reoli gan, gyfreithiau dynol.

Rhyw a'r Gyfraith
Materion Cymdeithasol
Hawliau · Moeseg
Pornograffi · Sensoriaeth
Hilgymysgedd
Priodas hoyw · Homoffobia
Ardal golau coch
Oed cydsynio
Trais · Caethweisiaeth
Moesoldeb gyhoeddus · Normiau
Troseddau penodol
Gall amrywio yn ôl gwlad
Godineb · Llosgach
Llithio
Cyfathrach rywiol gwyrdroedig
Sodomiaeth · Sodomiaeth · Söoffilia
Trosglwyddo troseddol o HIV
Enwaedu
Aflonyddu rhywiol · Anweddusdra cyhoeddus
Adran 63 y DU (2008) · Pornograffi o blant
Ymosodiad rywiol · Treisio · Trais statudol
Camdrin rhywiol (Plant)
Puteindra a Phimpio

Yn gyffredinol, penderfyna'r gyfraith weithredoedd sydd naill ai'n cael eu hystyried yn gamdrin rhywiol, neu ymddygiad yr ystyria llywodraeth gwlad i fod yn amhriodol neu'n groes i gonfensiynnau cymdeithas. Yn ogystal, ystyrir rhai categorïau o ymddygiad yn droseddau hyd yn oed os yw'r bobl sy'n ei wneud wedi cydsynio iddo. O ganlyniad, amrywia rhyw a'r gyfraith o fan i fan.

Gelwir gweithredoedd rhywiol sydd wedi eu gwahardd gan gyfraith gwlad yn "droseddau rhyw".

Oed cydsynio golygu

Er na ymddengys yr ymadrodd oed cydsynio mewn deddfau cyfreithiol,[1] pan yn cyfeirio at weithgarwch rhywiol, mae'r oed cydsynio'n cyfeirio at yr oed ifancaf yr ystyrir person yn gymwys yn gyfreithiol i gydsynio i weithgarwch rhywiol. Ni ddylid cymysgu hyn â'r oed y mwyafrif, neu'r oedran priodi.

Amrywia'r oed cydsynio o awdurdodaeth i awdurdodaeth.[1] Tuedda'r ystod oedran fod rhwng 16 a 18 years, ond ceir cyfreithiau lle nodir oedrannau rhwng 9 a 21 hefyd. Mewn nifer o awdurdodaethau, dehonglir oed cydsynio i olygu oed meddyliol neu ffrwythiannol.[2] O ganlyniad, gall ddioddefwyr fod o unrhyw oed cronolegol os ydy eu hoed meddyliol o dan yr oed cydsynio.[3]

Mae rhai awdurdodaethau yn gwahardd gweithgarwch rhywiol tu allan i briodas gyfreithiol yn gyfangwbl. Gall yr oed berthnasol amrywio hefyd yn ôl y weithred rywiol, rhyw yr actorion, a chyfyngiadau eraill megis camdriniaeth o bŵer neu sefyllfa. Mae rhai awdurdodaethau'n rhoi ystyriaeth arbennig i blant dan oedran sy'n gwneud gweithredoedd rhywiol a'i gilydd, yn hytrach na gosod un oed pendant.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (2005) The Age of Consent: Young People, Sexuality and Citizenship. Palgrave Macmillan. ISBN 1-4039-2173-3
  2. [1] Archifwyd 2013-06-05 yn y Peiriant Wayback. [2][dolen marw] [3] Archifwyd 2013-06-05 yn y Peiriant Wayback. [4] [5][dolen marw]
  3. [6] Archifwyd 2007-10-12 yn y Peiriant Wayback. [7][dolen marw] [8] Archifwyd 2013-06-05 yn y Peiriant Wayback. [9] [10]

Dolenni allanol golygu

Esiamplau o gyfreithiau mewn gwledydd gwahanol: