Rhywioldeb yng Nghymru

Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol golygu

Yn 2006 roedd 884 o bobl yng Nghymru (0.03% o'r boblogaeth) yn derbyn triniaeth am HIV/AIDS, tra yn 2002 roedd y ffigur dim ond yn 468; tybir fod y cynnydd hwn yn adlewyrchu diagnosau newydd ond hefyd mwy o achosion o oroesiad oherwydd triniaeth well. Mae cyffredinrwydd HIV/AIDS ar ei uchaf yng nghanolfannau trefol De Cymru ac ar hyd arfordir y Gogledd.[1]

Cynyddodd nifer yr achosion o syffilis heintus o 49 yn 2005 i 73 yn 2006; roedd y mwyafrif o achosion ymysg dynion sy'n cael rhyw gyda dynion, ond gwelir cynnydd graddol yng nghyfrannedd yr achosion lle drosglwyddir yr haint yn heterorywiol, o 22% yn 2002 i 41% yn 2006.[1]

Ystadegau cyffredinol golygu

Darganfu arolwg o 800 o bobl gan S4C yn 2001 y canlynol:[2]

  • taw'r nifer cyfartalog o bartneriaid rhywiol mae pobl yng Nghymru wedi cael yw naw
  • dywedodd hanner eu bod yn ymarfer rhyw diogel (roedd y ffigur hwn yn 60% ar gyfer pobl oed 18–24)
  • bod cyfathrach rywiol yng Nghymru yn para 23.5 munud ar gyfartaledd
  • bod dau berson o bob pump yng Nghymru wedi bod yn anffyddlon
  • bod traean o bobl yng Nghymru wedi cael rhyw gyda chydweithiwr/cydweithwraig
  • dywedodd 59% o bobl yng Nghymru bod rhyw yn rhan bwysig o'u bywydau

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) HIV and STI trends in Wales. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (Tachwedd 2007). Adalwyd ar 30 Mai, 2008.
  2. (Saesneg) Series on sex secrets of Wales. BBC (24 Ionawr, 2002). Adalwyd ar 29 Mai, 2008.