Un o nodweddion enwocaf hanes LHDT Cymru yw hanes Merched Llangollen, dwy fenyw o dras Eingl-Wyddelig pendefigaidd a wnaeth ffoi o Iwerddon yn 1778 a setlo mewn bwthyn, Plas Newydd, yn Llangollen, lle y buont yn cyd-fyw am hanner canrif. Nid yw'n sicr os oeddent yn lesbiaid, ond erbyn heddiw maent yn eiconau hoyw ac yn 2006 bu ceisiadau am ganiatâd i gynnal seremonïau partneriaethau sifil ym Mhlas Newydd.[1]

Yn 1967 cyflwynodd Leo Abse, AS Pont-y-pŵl, fesur preifat a arweiniodd at gyfreithloni rhyw rhwng dynion yn y Deyrnas Unedig.

Yn y 1980au cyhoeddwyd cylchlythyr Cymraeg o'r enw Draig Binc gan Gymry Cymraeg hoyw yn Llundain ac Aberystwyth.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Plas: Seremonïau hoyw?. BBC Cymru'r Byd (22 Mehefin, 2006). Adalwyd ar 27 Mai, 2008.