Ribofflafin
Fitamin o deulu fitamin B yw ribofflafin neu fitamin B2. Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn. Defnyddir ribofflafin hefyd fel lliw bwyd (lliw melyn-oren), ac yn y cynllun rhifau E mae wedi'i ddynodi fel E101.
![]() | |
Enghraifft o: | math o endid cemegol ![]() |
---|---|
Math | pteridine ![]() |
Màs | 376.138 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | C₁₇h₂₀n₄o₆ ![]() |
Enw WHO | Riboflavin ![]() |
Clefydau i'w trin | Ariboflavinosis ![]() |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america a ![]() |
Rhan o | riboflavin binding, riboflavin metabolic process, riboflavin biosynthetic process, riboflavin catabolic process, cellular response to vitamin B2, riboflavin transmembrane transporter activity, riboflavin transport, response to vitamin B2 ![]() |
Yn cynnwys | carbon ![]() |
![]() |
Mae ribofflafin yn hanfodol i ffurfio dau gydensym pwysig, sef fflafin mononiwcleotid a fflafin adenin deuniwcleotid. Mae'r cydensymau hyn yn ymwneud â metabolaeth, resbiradaeth cellog, a chynhyrchu gwrthgyrff, yn ogystal â thwf a datblygiad y corff. Mae angen y cydensymau hefyd i fetaboleiddio niacin (fitamin B3), fitamin B6, ac asid ffolig (fitamin B9).
Dyma rai bwydydd sy'n ffynonellau da o fitamin B2:
Mae bod yn yr haul, fodd bynnag, yn dinistrio ribofflafin.