Ricardo Güiraldes
Nofelydd a bardd yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Ricardo Güiraldes (13 Chwefror 1886 – 8 Hydref 1927).[1] Ei gampwaith ydy'r nofel Don Segundo Sombra (1926), enghraifft o lenyddiaeth y gaucho ac un o glasuron llên yr Ariannin.
Ricardo Güiraldes | |
---|---|
Ganwyd | 13 Chwefror 1886 Buenos Aires |
Bu farw | 8 Hydref 1927 o lymffoma Paris |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Arddull | barddoniaeth |
llofnod | |
Ganwyd yn Buenos Aires i deulu cefnog, a chafodd ei fagu ar ystâd y teulu yn Nhalaith Buenos Aires. Treuliodd dair mlynedd gyntaf ei oes ym Mharis, a dysgodd Ffrangeg cyn iddo ddysgu Sbaeneg.[2]
Dychwelodd i Baris yn 1910, ac yno daeth yn gyfeillgar â llenorion Ffrengig yr avant-garde a'r beirdd Dirywiaethol. Defnyddiodd arddulliau arbrofol yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, El cencerro de cristal (1915). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Raucho, yn 1917.
Aeth i Baris ym Mawrth 1927 i chwilio am driniaeth i'w afiechyd. Bu farw yno ar 8 Hydref yn 41 oed o glefyd Hodgkin.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Ricardo Güiraldes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Ebrill 2019.
- ↑ Angela B. Dellepiane, "Güiraldes, Ricardo (1886–1927)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 18 Ebrill 2019.
- ↑ "Ricardo Güiráldez" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 18 Ebrill 2019.
Darllen pellach
golygu- William W. Megenney (gol.), Four Essays on Ricardo Güiraldes (1886–1927) (1977).
- Giovanni Previtali, Ricardo Güiráldez and Don Segundo Sombra: Life and Works (1963).