Gwleidydd o'r Alban yw Richard Arkless (ganwyd 7 Gorffennaf 1975) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Dumfries a Galloway; mae'r etholaeth yn siroedd: Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark, yr Alban. Mae'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Richard Arkless

Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Russell Brown
Olynydd Alister Jack

Geni (1975-07-07) 7 Gorffennaf 1975 (48 oed)
Stranraer, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Dumfries a Galloway
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Cafodd ei eni yn 1975 yn Stranraer (Gaeleg: 'An t-Sròn Reamhar'), yn swydd Dumfries a Galloway.[1] Treuliodd ychydig amser gyda'r teulu yn Llundain, pan oedd yn fachgen.[1] Dychwelodd i Stranraer pan oedd yn wyth oed.[1]

Mae ganddo radd BA mewn Arianneg, o Brifysgol Caledonian Glasgow a gradd yn y gyfraith (LLB) o Brifysgol Ystrad Clud.[2]

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Richard Arkless 23440 o bleidleisiau, sef 41.4% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 29.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 6514 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Your MP elect: Richard Arkless". itv News. 8 Mai 2015. Cyrchwyd 9 Mai 2015.
  2. "My CV". richardarkless.scot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-09. Cyrchwyd 9 Mai 2015.
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  4. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban