Richard Brake

Actor Cymreig sy'n gweithio yn yr UDA

Actor ac Americanwr o dras Gymreig yw Richard Colin Brake (ganwyd 30 Tachwedd 1964)[1] sy'n adnabyddus am bortreadu Joe Chill yn Batman Begins a'r Night's King yn Game of Thrones.

Richard Brake
GanwydRichard Colin Brake Edit this on Wikidata
30 Tachwedd 1964 Edit this on Wikidata
Ystrad Mynach Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Western Reserve Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor llais, actor teledu, actor ffilm Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Brake yn Ystrad Mynach, Hengoed i rieni o Gymru, a fe'i magwyd yn nhaleithiau Gogledd Carolina, Tennessee, ac Ohio yn yr UDA. Mewnfudodd ei deulu i'r Unol Daleithiau yn 1967 a setlodd y teulu gyntaf yn Atlanta. Aeth i Academi Western Reserve yn Hudson, Ohio a fe'i hyfforddwyd yn The Science of Acting[2] o dan sylfaenydd y dechneg, a Phrifathro sefydlol yr Academi o Wyddoniaeth Actio a Chyfarwyddo,[3][4] Sam Kogan. Astudiodd actio hefyd yn Ninas Efrog Newydd yn Michael Chekhov Studio o dan Beatrice Straight.

Gyrfa actio

golygu

Ar ôl ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau (yn cynnwys ymddangosiadau byr yn Cold Mountain a Munich), cyflawnodd Brake ei brif ran sylweddol mewn sinema prif ffrwd gyda'i rôl fel Joe Chill yn ffilm Christopher Nolan yn 2005, Batman Begins. Yn y ffilm hon (fel gyda rhan fwyaf o fersiynau cyfres comic Batman), troseddwr yw ei gymeriad sy'n llofruddio rhieni Bruce Wayne, ac felly yn ei osod ar lwybr i ddod yn Batman.

Yn dilyn hyn, ymddangosodd Brake fel Portman yn Doom, gyda Karl Urban a The Rock. Roedd gan Brake ymddangosiad cameo yn fideo'r grŵp Muse ar gyfer "Knights of Cydonia", yn chwarae siryf drwg mewn ffilm gowboi rhyfedd dyfodolaidd. Yna chwaraeodd rhan y cnaf Bobby DeWitt yn The Black Dahlia, ac yn Hannibal Rising chwaraeodd Enrikas Dortlich, un o'r troseddwyr rhyfel sy'n llofruddio chwaer yr Hannibal Lecter ifanc.[5]

Yn Medi 2007, ymddangosodd Brakes ar lwyfan y  Young Vic yn The Member of the Wedding gan Carson McCullers. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad gan Matthew Dunster.

Gan ddychwelyd i ffilm, serennodd fel y cymeriad Prior yn Outpost gan y cyfarwyddwr Steve Barker.[6] Serennodd Brake yn Perkins' 14, gan Craig Singer a ymddangosodd yng ngŵyl ffilm Afterer Dark Horrorfest.[7] Yn 2009, ymddangosodd Brake fel Gary Scott yn Halloween II gan Rob Zombie,[8] dilyniant i'w ailgread o Halloween – rôl a gafodd yn seiliedig ar argymhelliad personol i Rob Zombie gan Sid Haig.[9]

Mae wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu Brydeinig, yn cynnwys M.I. High, Keen Eddie a Jeeves and Wooster, yn ogystal â'r sioe deledu Americanaidd Cold Case.

Fe bortreadodd Brake y capten yn yr einherjar yn y ffilm Thor: The Dark World (2013).[10] Yn Mawrth 2015 castiwyd Brake gan Rob Zombie fel y lladdwr Doom-Head yn y ffilm arswyd 31, a ddangoswyd gyntaf yng Ngŵyl Ffilm Sundance Film Festival yn Ionawr 2016.[11]

Bywyd personol

golygu

Mae gan Brake dau fab gyda'i gyn-wraig Rachel, Ryan (ganwyd 1999) a Henry (ganwyd 2002).

Ffilmyddiaeth

golygu
Blwyddyn Teitl
Rhan Nodiadau
1994 Death Machine Scott Ridley
1996 Subterfuge Pierce Tencil
1996 Virtual Terror Steve Baker
1997 Deus Volt Bishop Von Match
2003 Cold Mountain Nym
2005 Batman Begins Joe Chill
2005 Doom Corporal Dean Portman
2005 Munich Belligerent American
2006 The Black Dahlia Bobby DeWitt
2007 Hannibal Rising Enrikas Dortlich
2008 Outpost Prior
2009 Cuckoo Lone Wolf
2009 Halloween II Gary Scott
2009 Perkins' 14 Ronald Perkins
2010 Legacy Scott O'Keefe
2011 Detention Mr. Nolan
2011 Good Day for It Norman Tyrus
2011 The Incident Harry Green Adwaenir fel Asylum Blackout
2011 Water for Elephants Grady
2013 The Counselor Ail Ddyn
2013 The Numbers Station Max
2013 Thor: The Dark World Einherjar Captain
2014 Set Fire to the Stars Mr. Unlucky
2015 Kingsman: The Secret Service The Interrogator
2015 Spy Solsa Dudaev
2015 The Cannibal in the Jungle Dr. Timothy Darrow
2015 The Chameleon Detective Brady
2016 31 Doom-Head
2016 Bitter Harvest Medved
2016 Payne & Redemption Lenny yn ffilmio
2016 Extinction Wrath cyn-gynhyrchu

Teledu

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1993 Jeeves and Wooster Gohebydd
Pennod: "Lady Florence Craye Arrives in New York (or, the Once and Future Ex)"
2004 Keen Eddie "Dutch" Mike Vanderlay Pennod: "Sticky Fingers"
2009 Cold Case Rich Kiesel Pennod: "Mind Games"
2009 M.I. High Georgi Pennod: "Family Tree"
2009 NCIS: Los Angeles John Bordinay Pennod: "Ambush"
2010 The Deep McIndoe 3 pennod
2011 Above Suspicion Marshall / Alexander Fitzpatrick 3 pennod
2013 Mob City Terry Mandel 5 pennod
2014 The Assets Agent Waters Episode: "Trip to Vienna"
2014–present Game of Thrones The Night's King 2 pennod
2015 Grimm Nigel Edmund Pennod: "Bad Luck"
2015 The Bastard Executioner Baron Edwin Pryce 3 pennod
2016 Beowulf: Return to the Shieldlands Arak Pennod 8
2016 Hawaii Five-0 Henry Garavito Pennod: "Ka Pono Ku'oko'a"
2016 Ray Donovan Vlad Cyn-gynhyrchu

Gemau fideo

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2005 Juiced T. K.
2016 Squadron 42 I'w gyhoeddi
ôl-gynhyrchu

Fideos Cerddoriaeth

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2006 Muse Knights of Cydonia Sheriff Baron Klaus Rottingham

Cyfeiriadau

golygu
  1. Richard Brake at the Internet Movie Database
  2. Kogan, Sam (2010). Helen Kogan (gol.). The Science of Acting. Routledge. t. Dust Jacket. ISBN 978-0-415-48812-9. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-13. Cyrchwyd 2021-02-20.
  3. "The Academy of the Science of Acting and Directing". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-23. Cyrchwyd 2016-04-20.
  4. "The Academy of the Science of Acting and Directing – an introduction".
  5. Richard Brake – Hannibal Rising
  6. Hanley, Ken W. (24 Medi 2012). "Casting Round-up: "31"". Fangoria.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 24 Medi 2012.
  7. ""31" Gives a Glimpse of Doom-Head!". Fangoria. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 16 Mawrth 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Here's Doom Head – Rob Zombie's 31". BD. Cyrchwyd 16 March 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. "Rob Zombie Casts His "Doom-Head" In '31′". BD. Cyrchwyd 16 Mawrth 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. Patten, Dominic (24 Medi 2012). "'Thor: The Dark World' Adds Pair To Cast". Deadline.com. Cyrchwyd 24 Medi 2012.
  11. "Richard Brake Brings Doom Head to Rob Zombie's 31". DC. Cyrchwyd 16 Mawrth 2015.

Dolenni allanol

golygu