Richard Collingham Wallhead
Roedd Richard Collingham Wallhead (28 Rhagfyr 1869 – 27 Ebrill 1934), yn wleidydd Llafur a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Merthyr o 1922 i 1934
Richard Collingham Wallhead | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1869 |
Bu farw | 27 Ebrill 1934 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, darlithydd, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plant | Muriel Nichol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Wallhead yn Islington Llundain yn fab i Richard Wallhead, gweithiwr Rheilffordd a Mary (née Love) ei wraig.[1]
Priododd Ellen Staines ym 1892 a bu iddynt un mab a dwy ferch. Bu un o'i ferched, Muriel Nichol yn Aelod Seneddol Llafur etholaeth Bradford North 1945-1950
Gyrfa
golyguBu'n gweithio fel peintiwr tai ac yn gerfiwr efydd a chopr yn Swydd Gaer, gan fynychu darlithoedd efrydwyr allanol Mudiad Addysg y Gweithwyr i wella ei addysg. Ym 1906 cafodd ei benodi yn rheolwr ac yn newyddiadurwr ar y papur sosialaidd The Manchester Labour Leader, yr oedd hefyd yn ddarlithydd allanol i Goleg y Blaid Lafur Annibynnol.
Ym 1917 cyflwynodd cynnig i gynhadledd y Blaid Lafur Annibynnol (ILP) a oedd yn gwrthwynebu polisïau llywodraeth Lloyd George a oedd yn cyfyngu ar ryddid o dan ddeddfau diogelwch Y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn gwrthwynebu gwasanaeth milwrol gorfodol; o ganlyniad cafodd ei gadw yn y ddalfa o dan Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas (1914)[2]
Gyrfa Wleidyddol
golyguCafodd ei ethol i Gyngor Ddinas Manceinion ym 1919 gan wasanaethu hyd 1921. Safodd fel ymgeisydd seneddol y Blaid Lafur yn etholaeth Coventry ym 1918, heb lwyddiant. Safodd yn etholaeth Merthyr ym 1922 gan lwyddo i gipio'r sedd i Lafur gan y Rhyddfrydwyr. Gwasanaethodd fel Cadeirydd yr y Blaid Lafur Annibynnol o 1920 i 1922.[3]
Roedd y Blaid Lafur Annibynnol yn rhan gysylltiedig o'r Blaid Lafur hyd 1930 pan ddatgysylltwyd y ddwy blaid gan nad oedd yr ILP yn credu bod polisïau Llywodraeth Llafur Ramsay MacDonald yn ddigon asgell chwith. Yn Etholiad Cyffredinol 1931 roedd Wallhead yn un o ddim ond pum allan o'r 31 AS ILP i ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin, yn bennaf gan na fu ymgeisydd Llafur swyddogol yn sefyll yn ei erbyn. Ym 1933 ymddiswyddodd Wallhead o'r ILP ac ymuno a'r Blaid Lafur Swyddogol gan fwriadu sefyll fel ymgeisydd Llafur yn yr etholiad dilynol, ond bu farw cyn yr etholiad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfrifiad 1871 Archif Genedlaethol Lloegr RG10/ 264; Ffolio: 41; Tudalen: 79
- ↑ British Labour Seeks a Foreign Policy: 1900 - 1940, Henry Ralph Winkler, Transaction Publishers 2004, t25 isbn=1412818907
- ↑ WALLHEAD, Richard Collingham’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920-2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [1] adalwyd 16 Mai 2015]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Edgar Rees Jones |
Aelod Seneddol Merthyr 1922 – 1934 |
Olynydd: S. O. Davies |