Richard Davies (actor)

Actor Cymreig oedd Richard Davies (25 Ionawr 19268 Hydref 2015). Efallai roedd e'n fwyaf enwog am chwarae'r ysgolfeistr cynddeiriog Mr. Price yn y comedi sefyllfa boblogaidd Please Sir! gan LWT. Roedd yn defnyddio ei acen Gymreig ar gyfer llawer o'i waith ond roedd yn defnyddio acenion eraill i chwarae ystod eang o gymeriadau, yn ogystal â sawl cymeriad ystrydebol Cymreig.[1]

Richard Davies
Ganwyd25 Ionawr 1926 Edit this on Wikidata
Dowlais Edit this on Wikidata
Bu farw8 Hydref 2015 Edit this on Wikidata
Conford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Davies yn Dowlais, Merthyr Tydfil, Sir Forgannwg. Fe chwaraeodd Idris Hopkins yn Coronation Street rhwng 1974 a 1975, a ymddangosodd mewn sawl cyfres wyddonias, yn cynnwys Robert's Robots, Out of the Unknown, a pherfformiad cydnabyddedig fel Burton yn stori Doctor Who o 1987 - Delta and the Bannermen. Chwaraeodd Mr. White ym mhennod "The Kipper and the Corpse" o Fawlty Towers ac fe ymddangosodd yn Yes Minister, Wyatt's Watchdogs, May to December, Whoops Apocalypse, 2point4 Children a One Foot in the Grave. Yn 1970, fe ymddangosodd mewn pennod o Two In Clover fel brawd cymeriad Victor Spinetti pan nad oedd Spinetti ar gael. Roedd ganddo brif ran arall yn y comedi 'Oh no it's Selwyn Frogitt' yn chwarae Clive.

Roedd gan Davies ran achlysurol fel Jim Sloan yn Z-Cars rhwng 1962 a 1965, gan ddychwelyd i'r gyfres gan chwarae cymeriad canlynol yn 1968 ac yn y gyfres ddilynol Softly, Softly. Fe ymddangosodd hefyd yn Dixon of Dock Green, The Sweeney a Van der Valk. Fe ddynwaredodd Clive Jenkins mewn parodi o raglen Question Time ar sioe gomedi Not the Nine O'Clock News. Ymddangosodd yn y gyfres a ddilynodd o Please Sir! sef The Fenn Street Gang. Yn 1951, fe wnaeth ymddangosiad heb ei gydnabod yng nghomedi Ealing Studios The Lavender Hill Mob. Ymddangosodd yn y ffilmiau fel Zulu (1964), addasiad ffilm o Please Sir! (1971), a Under Milk Wood (1972). Yn 1988, chwaraeodd yr athro ysgol yn Queen Sacrifice. Bu farw ar 8 Hydref 2015 yn 89 mlwydd oedd. Roedd yn dioddef o glefyd Alzheimer.[2]

Ffilmyddiaeth

golygu
Blwyddyn Teitl
1951 The Lavender Hill Mob
1955 The Night My Number Came Up
1962 Some People
1964 Zulu
1965 Sky West and Crooked
1968 Twisted Nerve
1971 Please Sir!
1972 Under Milk Wood
1973 Blue Blood
1973 Steptoe and Son Ride Again
1974 The Mutations
1988 Queen Sacrifice

Teledu

golygu
Blwyddyn Teitl
Rhan
19621965 Z-Cars Jim Sloan
1968 Softly, Softly
1962 Z-Cars
19681972 Please Sir! Mr. Price
1970 Two In Clover
19741975 Coronation Street Idris Hopkins
19741977 Oh No, It's Selwyn Froggitt! Clive
1979 Fawlty Towers Mr. White
1980 Yes, Minister Joe Morgan
1982 Whoops Apocalypse Chancellor of the Exchequer
1987 Doctor Who Burton
1988 Wyatt's Watchdogs
1992 One Foot in the Grave Billy Whitney
1992 2point4 Children Gareth

Cyfeiriadau

golygu
  1. Anthony Hayward. "Richard Davies obituary". the Guardian.
  2. "Richard Davies - Welsh Character Actor - RIP 1926-2015". Toby Hadoke - Comedian, Actor, Writer (quite likes Doctor Who).

Dolenni allanol

golygu