Richard Evans (morwr)
Ganed Richard (Dic) Evans (19 Ionawr 1905 - 13 Medi 2001) ym mhentref Moelfre yn Ynys Môn.[1] Dros gyfnod o 50 mlynedd gyda'r bad achub, bu Richard Evans ynghlwm a 179 o lawnsiadau a achubodd 281 o fywydau. Ef yw un o'r 5 person sydd wedi derbyn Medal Aur Sefydliad Brenhinol y Badau Achub, yr anrhydedd fwyaf a wobrwyir gan y corff hwnnw.[2]
Richard Evans | |
---|---|
Cerflun o Richard (Dic) Evans, Moelfre | |
Ganwyd | 19 Ionawr 1905 |
Bu farw | 13 Medi 2001 |
Galwedigaeth | achubwr bywyd |
Bywyd
golyguCafodd Richard Evans ei eni a'i fagu ym mhentref Moelfre ar Ynys Mon. Yn fab i fasnachlongwr, dewisodd Richard ddilyn ôl troed ei dad a mynd i'r proffesiwn hwnnw yn 14 oed, a chymryd rheolaeth o'r MV Colin erbyn yr oedd yn 23 oed. Yn ddiweddarach, cymerodd ofal o siop cigydd y teulu a bu'n gwasanaethu fel signalwr yn y Gwarchodlu Cartref yn ystod Yr Ail Ryfel Byd. Priododd Nansi Thomas yn 1933 a chael tri mab: David, Derek a William.[3] Yn dilyn ei ymddeoliad yn 1970, bu Evans yn codi arian gyda'r Bad Achub ac yn ymddangos ar y teledu a'r radio, gan gynnwys ymddangos ar y rhaglen This is Your Life yn 1970.[4] Bu farw yn 96 oed.[5]
Gwasanaeth gyda'r Bad Achub
golyguRoedd y traddodiad o wasanaethu gyda'r Bad Achub yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth yn nheulu Richard Evans. Roedd un o'i gyndeidiau yn rhan o'r ymgais i achub y rhai a oedd ar y Royal Charter, pan ddrylliwyd hi oddi ar arfordir Ynys Mon yn Hydref 1859. Bu dau daid Richard ym mad achub Moelfre a phan ymunodd yn 17 oed, roedd ei dad yn aelod o'r criw a'i ewythr yn llywiwr. Bu'n ail lywiwr trwy gydol yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei ddyrchafu'n llywiwr ar ymddeoliad ei ewythr yn 1954. Ymunodd tri mab Richard a'r bad achub hefyd. Yn ystod 50 mlynedd o wasanaeth gyda'r Bad, bu Richard ynghlwm a 179 o lansiadau gan achub dros 200 o fywydau.
Anrhydeddau
golygu- 1940 Diolch i'r Bad ar femrwn wedi iddo achub criw o 60 o forwyr o'r SS Geleden a oedd wedi'i tharo gan dorpedo a thirio ar Afon Menai.
- 1943 Medal Efydd Sefydliad Brenhinol y Badau Achub am ei ran yn achub awyrennwr a oedd wedi dryllio bomiwr Whitley.
- 1959 Medal Aur Sefydliad Brenhinol y Badau Achub am ei gyfraniad fel llywiwr y bad a achubodd griw cyfan MV Hindlea a oedd wedi dryllio ar greigiau mewn storm eithafol a mor garw.[6][7]
- 1960 Medal Arian y Frehines am ddewrder ar y mor[8]
- 1966 Medal Aur Sefydliad Brenhinol y Badau Achub am archub criw o'r llong Roegaidd Nafisporos[9]
- 1969 Medal yr Ymerodraeth Brydeinig
- Yn 1978 cafodd Evans ei urddo i'r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd
Y Cerflun Coffa
golyguDadorchuddiwyd y cerflun efydd er cof am Richard (Dic) Evans ar 23 Tachwedd 2004. Mae wedi'i leoli ger gorsaf bad achub Moelfre.[10] Mae'r cerflun, a grewyd gan Sam Holland, yn 7 troedfedd o uchder ar blinth o wenithfaen.[11]
Llyfryddiaeth
golygu- Leach, N., Moelfre Lifeboats: an illustrated history (Lichfield: Foxglove Publishing, 2015)
- Morris, J., The Story of the Moelfre Lifeboats (Coventry: J. Morris, 2003)
- Roberts, O., 'Lifeboatman Richard M Evans BEM of Moelfre', Cymru a'r Môr 23 (2002), 30-31
- Skidmore, I., Lifeboat VC: The Story of Coxswain Dic Evans, BEM, and his many rescues (Llundain: Pan Books, 1980)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lucas, Celia (26 Medi 2001). "Obituary:Richard Evans". The Guardian. Cyrchwyd 2 Mai 2017.
- ↑ Davies, Jenkins, Baines et al (eds) (2008). Welsh Academy Enclyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 272.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text: authors list (link)CS1 maint: Multiple names: authors list (link) CS1 maint: Extra text: authors list (link)
- ↑ "Richard Evans - Telegraph". The Telegraph. 18 Medi 2001. Cyrchwyd 2 Mai 2017.
- ↑ "Richard Evans". BBC. 4 Mawrth 1970. Cyrchwyd 2 Mai 2017.[dolen farw]
- ↑ "Richard Evans" (yn Saesneg). 2001-09-17. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2018-08-20.
- ↑ Evans, Robin (2001). Heroes All the Remarkable Story of the Hindlea rescue of 1959. Moelfre Partnership.
- ↑ Aberystwyth, National Library of Wales. Casgliad Geoff Charles, 99395043302419. Wreck of the "Hindlea" on the rocks by Moelfre, a 100 years after the Royal Charter sank there.
- ↑ "Moelfre Lifeboat Station, Station History, 1961". RNLI. 2017. Cyrchwyd 2 Mai 2017.[dolen farw]
- ↑ Quinn, Joanna (2 December 2016). "50 years since the Nafsiporos - Remembering a remarkable 17-medal-rescue". RNLI. Cyrchwyd 2 Mai 2017.[dolen farw]
- ↑ "HRH unveils a memorial statue of Dic Evans, a heroic lifeboatman, during a visit to Wales". Prince of Wales & The Duchess of Cornwall. 23 Tachwedd 2004. Cyrchwyd 2 Mai 2017.
- ↑ Holland, Sam. "Dic Evans Memorial Sculpture". Sam Holland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-26. Cyrchwyd 2 Mai 2017.